Sherman Makers

Ein grŵp cymunedol newydd lle bydd hygyrchedd yn ganolog.

Rhannwch

Beth yw Sherman Makers?

Grŵp theatr cymunedol yw Sherman Makers lle byddwch chi’n cael cyfle i greu gwaith theatr, i berfformio, i ddatblygu’ch sgiliau ac i fagu hyder. Mae’r grŵp yn cynnig amgylchedd cefnogol, diogel a chynhwysol lle gallwch chi ffynnu. Mae Sherman Makers yn eistedd ochr yn ochr â’n grŵp arall sydd ddim yn grŵp proffesiynol, sef Sherman Players. Mae’r ddwy raglen yn cynnig gofod i aelodau’r gymuned ryddhau eu creadigrwydd.

Ar gyfer pwy?

Mae Sherman Makers yn grŵp ar gyfer unrhyw un 18 oed a hŷn sy’n Fyddar, yn drwm eu clyw,yn ddall neu â golwg rhannol, yn anabl, yn niwrowahanol neu sydd wedi ymrwymo i greu gwaith theatr hygyrch.

Er bod tâl bach er mwyn cymryd rhan; does dim clyweliadau na rhwystrau rhag bod yn rhan o’r grŵp. Mae Sherman Makers ar agor i bawb ond byddwn yn rhoi blaenoriaeth i unrhyw un sy’n wynebu rhwystrau i gymryd rhan yn y celfyddydau. Ein nod yw bodloni’r holl ofynion mynediad gan gynnwys darparu dehonglwyr Iaith Arwyddion Prydain (BSL) a Saesneg â Chymorth Arwyddion (SSE), yn ogystal â gweithwyr cymorth mynediad.

Beth fydda i’n ei gael allan o hyn?

  • Rydyn ni eisiau i chi deimlo bod byd y theatr yn perthyn i chi.
  • Byddwch chi’n rhan o rywbeth, yn rhan o gymuned o bobl sy’n awyddus i greu gwaith theatr hygyrch. Mae’n lle lle byddwch chi’n cwrdd â phobl o’r un anian ac yn creu cysylltiadau newydd.
  • Rydyn ni eisiau i chi deimlo cyffro, egni ac ysbrydoliaeth drwy greu gwaith theatr lle bydd hygyrchedd yn ganolog.
  • Yn gryno, bydd Sherman Makers yn eich helpu i fynegi eich hunan yn greadigol drwy grefft gwaith theatr.

Pa fath o waith theatr fyddwn ni’n ei greu?

Gyda’n gilydd byddwn ni’n creu gwaith theatr lle mae hygyrchedd creadigol yn ganolog. Mae hygyrchedd creadigol yn sicrhau bod sioeau’n hygyrch i ystod eang o gynulleidfaoedd drwy sicrhau bod darpariaethau fel dehongli Iaith Arwyddion Prydain (BSL), disgrifiadau sain a chapsiynau wedi’u hymgorffori yn y cynyrchiadau.

Mae gen i ddiddordeb. Beth sydd angen i fi ei wneud nesaf?

Bydd y grŵp yn cwrdd yn wythnosol ar nos Fawrth o fis Ionawr 2026 ymlaen. Ond cyn hynny, byddwn ni’n cynnal gweithdy AM DDIM ar 15 Tachwedd (2-4pm) i roi blas i chi o’r hyn y gallwch ei ddisgwyl yn y grŵp. Yn y gweithdy byddwch chi’n cwrdd â chyfranogwyr posib eraill, yn cael syniad o deimlad y grŵp ac yn cael cyfle i holi cwestiynau.

Ffurflen Gofrestru Gweithdy Sherman Makers

Ar ôl y gweithdy, byddwn ni’n agor y broses archebu ar gyfer y grŵp.

Hoffwn i gael gwybod mwy neu mae angen cymorth arna i er mwyn cwblhau’r ffurflen gofrestru. Gyda phwy alla i siarad?

Cysylltwch â Fran drwy e-bostio francesca.pickard@shermantheatre.co.uk neu gadewch neges gyda staff ein Swyddfa Docynnau ar 02920646900 ac fe wnawn ni eich ffonio chi’n ôl.  Os hoffech ddefnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL), cysylltwch â ni ac fe drefnwn ni alwad fideo.

Mae Sherman Makers wedi’i ysbrydoli gan bartneriaeth Craidd.

Gwybodaeth am ffioedd:

Mae’r gweithdy cychwynnol am ddim ond mae llefydd yn brin. Bydd cyfnod peilot y Sherman Makers, rhwng mis Ionawr a mis Ebrill 2026, yn costio £5 y sesiwn. Bydd prisiau’r tymhorau wedyn yn gyson gyda’n rhaglenni craidd eraill. Ar hyn o bryd mae’r ffioedd yn £120 y tymor, gyda gostyngiad o 50% i’r rhai sy’n cael cymorth ariannol gan y llywodraeth. Rydyn ni hefyd yn ceisio cynnig nifer o fwrsariaethau.