Clueless in Cathays

Theatr

Ysgrifennwyd gan gyfranogwyr ein Theatr Ieuenctid a Gwen Morris

Cyfarwyddwyd gan dîm ein Theatr Ieuenctid

Adolygiad

23 - 25 Gorf 2026
7yh, 3yh

Prisiau

Tocynnau £12; Gostyngiadau £2 I ffwrdd; O Dan 25 Hanner Pris

Gwybodaeth Bellach

  • Gofod: Stiwdio

Mae sioe haf Theatr Ieuenctid y Sherman bob amser yn byrlymu ag egni a hwyl. Eleni, dewch â’ch chwyddwydr a’ch llyfr nodiadau yn barod am chwip o antur dditectif ddoniol.

Mae Clwb Nofelau Ditectif Cathays yn cyfarfod bob wythnos yn y Ganolfan Gymunedol am sgyrsiau bywiog am eu hoff nofelau, ond yn ddiweddar mae’r aelodau’n cwympo mas ac yn cythruddo’i gilydd. Pan fydd rhywbeth amheus yn digwydd yn y ganolfan, maen nhw’n cael eu hunain yng nghanol eu dirgelwch eu hunain ac mewn ras i achub yr adeilad rhag cau. A fydd yr aelodau’n gallu rhoi eu gwahaniaethau o’r neilltu a chytuno ar ffordd i achub y ganolfan, ac a fydd eu sgiliau didynnu a’u dyfeisgarwch yn achub y dydd ac yn dod â’r grŵp yn ôl at ei gilydd?

Ymunwch â ni fis Gorffennaf yma wrth i gwmni cyfan ein Theatr Ieuenctid 8-18 oed gamu i lwyfan ein Stiwdio unwaith eto. Mae Clueless in Cathays yn ddathliad difyr o bŵer adrodd stori ac yn esgus perffaith i ddod i’r Sherman yr haf hwn.