Mae Tîm Sherman ar fin ymgymryd â her Hanner Marathon Caerdydd.
Ddydd Sul 5 Hydref bydd Theatr y Sherman yn gadael y llwyfan ac yn mentro i strydoedd Caerdydd wrth i’n tîm codi arian wisgo’i hesgidiau rhedeg er mwyn cymryd rhan yn Hanner Marathon Caerdydd.
Bydd grŵp ymroddedig o naw o redwyr yn ymgymryd â’r her 13.1 milltir, er mwyn codi arian hanfodol ar gyfer Cronfa Rhannwch Eich Angerdd y Sherman. Cronfa sy’n diogelu mynediad fforddiadwy ar draws ein gwaith ymgysylltu ac estyn allan.
Y llynedd, helpodd yr arian a godwyd drwy Gronfa Rhannwch Eich Angerdd i gefnogi ein tîm Ymgysylltu Creadigol i weithio gyda 1,500 o blant a phobl ifanc o bob rhan o dde Cymru a chyflwyno 363 o weithdai pwrpasol. Fe wnaeth hefyd sicrhau ein bod yn gallu darparu tocynnau am ddim neu am bris gostyngol a chefnogi costau teithio ysgolion er mwyn iddynt fynychu perfformiadau yn y Sherman. Bydd y rhoddion a godir drwy Hanner Marathon Caerdydd eleni yn galluogi’r gwaith pwysig hwn i barhau a thyfu.
Yn rhedeg eleni gyda tharged cyfunol o £2,500 mae Mike, Jonny, Tom, Laura, Marc, Fiona, Caroline, Josh a Kevin, ac mae gan bob un ei reswm ei hun dros redeg a chefnogi Theatr y Sherman.
“Mae’r Sherman wedi cefnogi fy natblygiad fel artist – mae fy nyled yn fawr i’w gwaith, ac mae’r cyfan dim ond wedi bod yn bosib oherwydd bod y Sherman yn elusen sy’n cael ei chefnogi gan haelioni eraill. Mae hyfforddi ar gyfer fy hanner marathon cyntaf wedi bod yn ymdrech enfawr (gwaed, chwys a dagrau, go iawn) ond, os yw’n cyfrannu mewn ffordd fechan at allu’r ganolfan wych yma i barhau i gynnig cyfleoedd i dalent newydd ddod i’r amlwg yng Nghymru, yna mae e werth chweil.” Tom
“Rydw i’n rhedeg Hanner Marathon Caerdydd i gefnogi Theatr y Sherman, gan eu bod nhw wedi rhoi cyfle i mi (a gymaint o bobl eraill) i gamu i fyd actio a chreadigrwydd. Mae’r Sherman yn fwy na dim ond theatr, mae’n lle sy’n agor drysau, yn meithrin talent ac yn sbarduno hyder yn unrhyw un sy’n teimlo’n ddigon dewr i gamu ar lwyfan am y tro cyntaf. Byddaf yn ddiolchgar am byth am y cyfleoedd a roddwyd i mi, a’r bobl anhygoel y cwrddais â nhw ar hyd y ffordd.” Mike
“Yn profi bod dylanwad Theatr y Sherman yn ymestyn ymhell y tu hwnt i Gaerdydd, dw i wedi teithio’r holl ffordd o Dalston i godi arian a chymryd rhan yn Hanner Marathon Caerdydd. Dwi’n credu’n gryf y dylai theatr anhygoel fod ar gael i bawb, waeth beth fo’i gefndir a heb iddynt orfod teithio i West End Llundain i’w brofi, felly mae’n wych gallu cefnogi llais mor gryf i Gymru a’r celfyddydau. Gyda rhywfaint o lwc bydd yr angerdd hwn yn fy nghario trwy gydol 13 milltir! ” Fiona
Bydd tîm cymeradwyo’r Sherman yn ymgynnull mewn gwahanol fannau ar hyd y ras, gan gefnogi ein rhedwyr bob cam o’r ffordd!
I gefnogi Tîm Sherman a dilyn y daith, ewch i’n tudalen codi arian Hanner Marathon Caerdydd.
Bydd pob rhodd yn cefnogi cenhadaeth Theatr y Sherman yn uniongyrchol – sef sicrhau fod y theatr yn hygyrch, yn gynhwysol ac yn agored i bawb.