buckets

Theatr

Ysgrifennwyd gan Adam Barnard

Cyfarwyddwyd gan Duncan Hallis

Archive

Adolygiad

9 - 11 Gorf 2026
7.30yh

Gwybodaeth Bellach

  • Gofod: Stiwdio
  • Amser rhedeg: 110 munud gan gynnwys egwyl gysur o 10 munud
Gwybodaeth Pwysig

Mae marwoldeb yn thema gylchol yn y ddrama hon. Am fwy o wybodaeth am gynnwys y ddrama cliciwch yma

Os mai bwced yw bywyd, sut rydyn ni’n ei lenwi?

Un diwrnod, fe ddaw ein hamser i ben. Sut ydyn ni’n byw bywyd i’r eithaf, gan wybod y bydd e’n dod i ben un diwrnod? Sut ydyn ni’n gwneud y mwyaf o’r amser sydd gennym? Trwy gyfres o benodau agored, mae Adam Barnard yn gofyn rhai o gwestiynau mawr bywyd yn ei ddrama deimladwy a chwareus.

Bob blwyddyn mae ein hensemble amatur, Sherman Players, yn cyflwyno dehongliad unigryw o ddrama glodwiw. Fis Gorffennaf yma, ymunwch â ni ar gyfer rhywbeth gwahanol. Mwynhewch noson o adloniant yr haf wrth i’r Players ddod ynghyd â’r cyfarwyddwr Duncan Hallis i gynnig adloniant dwfn ac ychydig yn absẃrd. 

Mae hwn yn gynhyrchiad amatur trwy drefniant gyda Nick Hern Books.