Swan Theatre Young Rep Company

Hunt

Theatre

Ysgrifennwyd gan Fionnuala Kennedy

Cyfarwyddwyd gan Owen Harper

Archive

Adolygiad

22 Ebrill 2022
6.00yh

Gwybodaeth Bellach

  • Gofod: Y Brif Theatr

Mae hon yn helfa ni allant fyth anghofio

Swan Theatre Young Rep Company sy’n cyflwyno Hunt, drama amdano grŵp o bobl ifanc yn eu harddegau sy’n chwarae eu fersiwn nhw o chwarae cuddio…

Mae eu fersiwn yn golygu ‘benthyg’ gwrthrychau o erddi cefn eu cymdogion, a’u ‘dympio’ wrth y ‘bocs’ heb gael eu dal, naill ai gan rheiny sy’n chwilio neu’r cymdogion sy’n berchen ar y gerddi – felly mae’r siawns o gael eich dal yn ddeublyg. Y mwyaf rhyfeddol ac anhygoel yw’r gwrthrych ac yr anoddaf ydyw i’w gael, y mwyaf o glod a gewch.

Y peth ydy, mae bron pob un o’r bobl ifanc yma’n llawer rhy hen i chwarae’r gêm ‘plant’ yma, ac mae’n fis Chwefror, mae’n rhewi ac mae ‘na storm yn dod, ond mae Jo eisiau gwneud argraff ar James, y bachgen o’i hysgol newydd. Dyw e ddim yn byw rownd ffordd yma a dyw hi ddim yn byw rownd fan yna. Mae eu perthynas newydd yn cynrychioli pont ar draws rhwyg yn y dosbarth. Felly yn anfoddog, mae’r ‘band’ yn ymuno nôl gyda’i gilydd, ar gyfer un gêm olaf.

Fodd bynnag, gallai hwn fod y penderfyniad gwaethaf yn eu bywydau bychain gan mai ychydig a wyddant fod y sibrydion am y ‘Dyn yn y Fan’ rhyfedd a rheibus yn wir, a’r dieithryn mwy peryglus fyth – yr un y mae pawb wedi’i rybuddio i gadw draw oddi wrtho – ‘Mad’ Danielle yn ôl. Mae hon yn helfa ni allant fyth anghofio.