Theatr Ieuenctid y Sherman

Superglue

Theatre

Ysgrifennwyd gan Tim Crouch

Cyfarwyddwyd gan Ruby Smith-Brown

Archive

Adolygiad

21 Ebrill 2022
1.00yp

Gwybodaeth Bellach

  • Gofod: Y Brif Theatr
Gwybodaeth pwysig

Nodwch bod y perfformiad yma yn trafod themau aeddfed, iaith gref a golygfeydd a chyfeiriadau gall rhai cynulleidfaoedd weld yn ofid. Mae’r perfformiad hefyd yn cynnwys goleuadau sy’n fflachio, goleuadau strôb a niwl.

Tynnir paralel rhwng henaint ac ieuenctid mewn drama sy’n gwahodd dealltwriaeth rhwng cenedlaethau o ddyfodol ein planed.

Everyman Youth Theatre sy’n cyflwyno Superglue, stori sy’n adrodd hanes grŵp o ymgyrchwyr hinsawdd sy’n cwrdd mewn coedwig i gladdu a ffarwelio â ffrind a fu farw yn ystod protest.

Wrth iddynt ymgynnull, maent yn codi baneri ac yn siarad am eu gorffennol a’u dyfodol, am weithredai heddychlon yn erbyn gweithredai treisgar, am sut mae cymdeithas yn eu diystyru ac yn tanbrisio eu hachos. I ddechrau, credwn fod yr ymgyrchwyr yr un oedran â’r actorion sy’n eu chwarae. Yn raddol, sylweddolwn mai stori am grŵp o ymgyrchwyr hinsawdd mewn oedran yw hwn – cymeriadau mewn oedran yn cael eu perfformio gan actorion ifanc.