Perfect Circle Youth Theatre

Superglue

Theatre

Ysgrifennwyd gan Tim Crouch

Cyfarwyddwyd gan Lee Farley

Archive

Adolygiad

22 Ebrill 2022
3.30yp

Gwybodaeth Bellach

  • Gofod: Y Brif Theatr

Tynnir paralel rhwng henaint ac ieuenctid mewn drama sy’n gwahodd dealltwriaeth rhwng cenedlaethau o ddyfodol ein planed.

Perfect Circle Youth Theatre sy’n cyflwyno Superglue, drama sy’n adrodd hanes grŵp o ymgyrchwyr hinsawdd sy’n cwrdd mewn coedwig i gladdu a ffarwelio â ffrind a fu farw yn ystod protest.

Wrth iddynt ymgynnull, maent yn codi baneri ac yn siarad am eu gorffennol a’u dyfodol, am weithredai heddychlon yn erbyn gweithredai treisgar, am sut mae cymdeithas yn eu diystyru ac yn tanbrisio eu hachos. I ddechrau, credwn fod yr ymgyrchwyr yr un oedran â’r actorion sy’n eu chwarae. Yn raddol, sylweddolwn mai stori am grŵp o ymgyrchwyr hinsawdd mewn oedran yw hwn – cymeriadau mewn oedran yn cael eu perfformio gan actorion ifanc.