Chat Back

Crëwyd yn y Sherman Theatre

Ysgrifennwyd gan David Judge

Cyfarwyddwyd gan Ashley Cummings

Archive

Adolygiad

3 - 5 Mawrth 2022
Amseroedd amrywiol

Gwybodaeth Bellach

  • Gofod: Y Brif Theatr
Gwybodaeth pwysig

Sylwch fod Chat Back yn cynnwys niwl a goleuadau strôb.

Breuddwydion pobl ifanc yn troi’n hunllefau

Allwn ni ddod o hyd i obaith yn unrhywle? Unwaith i gylch o drais a chreulondeb ddechrau, a fydd hi byth yn bosib ei atal? Mae drama bwerus David Judge yn gofyn y cwestiynau hyn a llawer mwy.

Chat Back yw cynhyrchiad byw cyntaf Theatr Ieuenctid y Sherman ers dwy flynedd, ac mae’n addo bod yn gynhyrchiad digyfaddawd a grëwyd gan bobl ifanc ar gyfer pobl ifanc. Mae Chat Back yn delio â themâu aeddfed ac yn cynnwys iaith gref a golygfeydd a chyfeiriadau a allai beri gofid i rai aelodau o’r gynulleidfa.
Perfformiwyd gan y bobl ifanc o Grŵp 4. Ymunwch â ni ddydd Sadwrn am berfformiad ychwanegol gan Grŵp 3 Theatr Ieuenctid y Sherman.

Bydd Chat Back hefyd yn cael ei berfformio pan fydd Theatr y Sherman yn croesawu Gŵyl NT Connections 2022 rhwng 21 a 23 Ebrill.

Cyfarwyddwr Ashley Cummings
Dylunydd Ruth Stringer
Cyfarwyddwr Cynorthwyol Hafwen Hibbard
___

Rhaid i bob aelod o’r gynulleidfa sy’n 18 oed a hŷn gael a dangos Pas Covid y GIG i gael mynediad i berfformiad. Darganfyddwch fwy yma.

Gwisgwch fwgwd trwy gydol eich ymweliad.
Rhaid i holl aelodau’r gynulleidfa ac ymwelwyr wisgo mwgwd (neu fygydau) trwy gydol eu hymweliad gan gynnwys yn ystod perfformiadau, oni bai eich bod wedi’ch eithrio (ag eithrio pan yn bwyta neu’n yfed yn yr awditoriwm). Nid oes disgwyl i gwsmeriaid y Bar Caffi wisgo mwgwd wrth eistedd wrth fwrdd. Darganfyddwch fwy am y camau rydym yn eu cymryd i gadw ein cynulleidfaoedd a’n staff yn ddiogel.