Mae eich diogelwch yn parhau i fod yn flaenoriaeth i ni
• Mae gwisgo mwgwd yn cael ei annog
• Mae trefniadau glanhau trylwyr yn parhau i fod ar waith ac mae hylif diheintio dwylo ar gael ar draws ein cyntedd
• Bydd perfformiadau pellter cymdeithasol gyda chapasiti gostyngedig ar gael i A Hero of the People (26 & 28 Mai 2yp)
• Polisi Ad-daliad Covid 19
Bydd gennych hawl i ad-daliad llawn os byddwch yn derbyn canlyniad prawf Covid-19 positif ac felly yn methu â mynychu perfformiad. Os gwnaethoch archeb cyn 25 Awst 2021 ar gyfer Jinkx Monsoon & Major Scales (10 Meh) a ddim yn teimlo’n barod i ddychwelyd i Theatr y Sherman eto, byddwn yn ad-dalu cost eich tocynnau cyn belled â’n bod yn derbyn y cais ddim hwyrach na 14 diwrnod cyn y perfformiad.
• Bydd tocynnau argraffu gartref / e-docynnau / cyfeirnodau unigryw yn disodli tocynnau wedi’u hargraffu yn Theatr y Sherman
Ni fyddwn yn anfon nac yn derbyn tocynnau a argraffwyd yn flaenorol yn y theatr. Cyhoeddir tocynnau i’w argraffu gartref neu e-docynnau yn lle tocynnau printiedig. I’r rheiny sy’n methu argraffu tocynnau gartref neu ddefnyddio e-docynnau, bydd modd i chi gasglu tocyn wedi’i argraffu o’r Swyddfa Docynnau pan fyddwch yn cyrraedd.
• Rydym yn ffafrio taliadau cerdyn
Byddwn yn dal i dderbyn arian parod ond rydym yn ceisio sicrhau cyn lleied o gyswllt ag y bo modd gydag arian parod. Os oes gennych gerdyn, byddai’n well gennym gymryd taliad digyswllt.
• Os oes gennych anghenion neu ofynion mynediad, rhowch wybod i ni
Dylai unrhyw un sydd ag anghenion neu ofynion mynediad, ag sydd efallai’n teimlo y gallai ymweld â’r Sherman fod yn anoddach na’r arfer gysylltu â’n tîm Swyddfa Docynnau (029 2064 6900 /box.office@shermantheatre.co.uk) er mwyn trafod eu hymweliad.
Byddwn yn cysylltu â chi trwy e-bost cyn eich ymweliad gyda gwybodaeth benodol ynglŷn â diogelwch Cofid ar gyfer y perfformiad hwnnw.