Wrth i ni ailagor, roeddem am sicrhau ein bod yn cynnig profiadau sy’n golygu rhywbeth i chi yn Theatr y Sherman. Mae'r ŵyl hon yn cynnwys yr holl bethau rydych chi'n eu caru am Theatr y Sherman: ysgrifennu newydd cyfareddol gan awduron Cymreig a rhai sy’n byw yng Nghymru, gogwydd newydd sbon ar ddramâu clasurol, comedi o'r radd flaenaf, tameidiau bar blasus ac awyrgylch llawn hwyl. Bydd yr holl sioeau yn cael eu cynnal yn y Stiwdio, a fydd yn cael ei thrawsnewid yn ofod ar ffurf cabaret.