WEDI'I AILDREFNU - 11 Ebrill

An Evening with Shane Williams

Talks
Archive

Adolygiad

11 Ebr 2022
7.30yh

Gwybodaeth Bellach

  • Gofod: Y Brif Theatr
  • Iaith: Saesneg

Gyda Phyl Harries ac Ieuan Rhys

Bydd y chwaraewr rygbi chwedlonol Cymru Shane Williams yn datgelu cyfrinachau rhyfeddol ei yrfa ddisglair wrth iddo droedio’r llwyfan yn yr achlysur arbennig yma.

Roedd Shane Williams yn chwarae rygbi’r undeb dros Gymru, gan ennill ei blwyf yn un o chwaraewyr mwyaf llwyddiannus ar yr asgell i’r Gweilch a thîm cenedlaethol Cymru.

Yn 2008 cafodd ei ddewis yn Chwaraewr Rygbi’r Byd, ac ers iddo ymddeol o’r byd rygbi rhyngwladol yn 2012, mae wedi cyflwyno ar S4C, yn ogystal â chyfrannu at raglenni ar y BBC, ITV a Channel 4. Yn 2016, cafodd ei ddewis i ymuno â Neuadd Enwogion Rygbi’r Byd.

Dyma gyfle gwych i gefnogwyr rygbi Cymru ddod i adnabod Shane mewn awyrgylch bersonol, wrth iddo rannu ei straeon am ei fywyd ar y cae ac oddi wrtho.

Mae hefyd yn cynnwys sesiwn holi ac ateb, felly os oes gyda chi gwestiwn i Shane, dyma’ch cyfle chi i’w holi’n dwll!
___

Sylwch nad yw’n ofynnol bellach i aelodau’r gynulleidfa ddangos pas Covid y GIG i gael mynediad i berfformiad.

Gwisgwch fwgwd trwy gydol eich ymweliad.
Rhaid i holl aelodau’r gynulleidfa ac ymwelwyr wisgo mwgwd (neu fygydau) trwy gydol eu hymweliad gan gynnwys yn ystod perfformiadau, oni bai eich bod wedi’ch eithrio (ag eithrio pan yn bwyta neu’n yfed yn yr awditoriwm). Nid oes disgwyl i gwsmeriaid y Bar Caffi wisgo mwgwd wrth eistedd wrth fwrdd. Darganfyddwch fwy am y camau rydym yn eu cymryd i gadw ein cynulleidfaoedd a’n staff yn ddiogel.