Petula

Theatre
Archive

Adolygiad

12 - 19 Mawrth 2022
7:30yh

Gwybodaeth Bellach

  • Gofod: Y Brif Theatr
Gwybodaeth Pwysig

Sylwch fod Petula yn cynnwys golygfa o drais ysgafn a chyfeiriadau ysgafn at ryw. Bydd mwg a goleuadau’n fflachio.

Cyfuniad cofiadwy a swreal o gomedi dywyll ac antur. Gwledd weledol am berthynas, iaith a chariad. Bydd Petula’n wahanol i unrhyw beth rwyt ti wedi’i brofi o’r blaen!

Mae National Theatre Wales, Theatr Genedlaethol Cymru ac August012 yn uno i ddod â chynhyrchiad newydd sbon o ddrama anhygoel Fabrice Melquiot. Wedi ei chyfarwyddo gan Mathilde Lopez, mae’r sgript amlieithog gan Daf James yn gyfuniad difyr o’r Gymraeg, Saesneg a rhywfaint o Ffrangeg.

Yn anffodus oherwydd achos o Covid yn y cwmni, mae perfformiad heno o Petula wedi’i ganslo. Mae’r penderfyniad hwn wedi’i wneud er mwyn diogelu cynulleidfaoedd, artistiaid a staff. Rydym wrthi’n cysylltu â phob un sydd wedi prynu tocyn. Diolch am eich amynedd a’ch dealltwriaeth.

Sut yn y byd wyt ti fod i dyfu i fyny pan fo popeth o dy gwmpas di’n cwympo’n ddarnau?

Dyna’r cwestiwn mawr i Pwdin Evans, sydd wedi cael llond bol ar ei rieni a’i lys-rieni gwallgo, a phopeth arall sydd gan berson ifanc i boeni amdano yn y byd. Mae’n ei heglu hi ar antur epig i’r gofod i chwilio am atebion ac am ei gyfnither goll, Petula.

Gan Fabrice Melquiot
Addaswyd a Chyfieithwyd gan Daf James
Y Cysyniad a’r Cyfarwyddo gan Mathilde López

Bydd capsiynau llawn ar gael ar gyfer pob perfformiad o Petula.

Wrth i chi edrych ar y llwyfan o’ch sedd:
• Bydd un o’r sgriniau ar eich chwith yn dangos y ddeialog yn Gymraeg a Saesneg heb gyfieithiad.
• Bydd sgriniau ar eich ochr dde ac ar eich ochr chwith yn dangos y ddeialog yn Saesneg a’r ddeialog Gymraeg wedi’i chyfieithu i’r Saesneg.
• Mae ychydig o’r ddeialog yn Ffrangeg. Bydd capsiynau ar gyfer y Ffrangeg ar y ddwy sgrin ond ni fydd yn cael ei gyfieithu.

Disgrifiad Sain (Cymraeg) – 18 Mawrth
Disgrifiad Sain (Saesneg) – 19 Mawrth

Disgrifiad Sain Saesneg ynghyd â chyfieithiad ar y pryd o’r sgript o’r Gymraeg i’r Saesneg. Byddwch yn rhan o’r treial newydd hwn am £10 yn unig – archebwch drwy ffonio’r Swyddfa Docynnau (029 2064 6900).

___

2 tocyn am bris 1 ar gael i chwaraewyr Loteri. Mwy o wybodaeth yma.
___

Sylwch nad yw’n ofynnol bellach i aelodau’r gynulleidfa ddangos pas Covid y GIG i gael mynediad i berfformiad.

Gwisgwch fwgwd trwy gydol eich ymweliad.
Rhaid i holl aelodau’r gynulleidfa ac ymwelwyr wisgo mwgwd (neu fygydau) trwy gydol eu hymweliad gan gynnwys yn ystod perfformiadau, oni bai eich bod wedi’ch eithrio (ag eithrio pan yn bwyta neu’n yfed yn yr awditoriwm). Nid oes disgwyl i gwsmeriaid y Bar Caffi wisgo mwgwd wrth eistedd wrth fwrdd. Darganfyddwch fwy am y camau rydym yn eu cymryd i gadw ein cynulleidfaoedd a’n staff yn ddiogel.