Frân Wen

Ynys Alys

Theatre

Ysgrifennwyd gan Gareth Evans-Jones

Cyfarwyddwyd gan Gethin Evans

Archive

Adolygiad

7 - 9 Ebrill
1:00yp, 7:30yh

Gwybodaeth Bellach

  • Iaith: Cymraeg
  • Gofod: Stiwdio
  • Hyd: 1awr 20munud dim egwyl
Gwybodaeth pwysig

Sylwer, mae Ynys Alys yn cynnwys goleuadau sy’n fflachio, sain uchel ac effeithiau pyrotechnig.

Theatr, cerddoriaeth bop a rap yn gwrthdaro yn y cynhyrchiad Cymraeg hwn sy'n dilyn merch ifanc wrth iddi fynd ati i chwilio am ei hannibyniaeth.

Mae’n bryd i Alys ddechrau byw ei bywyd gorau. Ond caiff ei chaethiwo mewn hen hunlle cyfarwydd, anghyfarwydd. All hi goncro ei hofnau? All hi fod yr Alys y mae hi eisiau bod?

Mae Ynys Alys yn archwilio pwy ydyn ni mewn adegau o newid a’r hyn rydyn ni wir yn gobeithio dal gafael arno mewn byd newydd.

Bydd pob perfformiad o Ynys Alys gyda chapsiynau Cymraeg a Saesneg.

Ymunwch â ni am sgwrs gyda’r cast a Chyfarwyddwr Artistig Frân Wen, Gethin Evans, yn dilyn y sioe ar 7 Ebrill.

___

2 tocyn am bris 1 ar gael i chwaraewyr Loteri. Mwy o wybodaeth yma.
___

Sylwch nad yw’n ofynnol bellach i aelodau’r gynulleidfa ddangos pas Covid y GIG i gael mynediad i berfformiad.

Gwisgwch fwgwd trwy gydol eich ymweliad.
Rhaid i holl aelodau’r gynulleidfa ac ymwelwyr wisgo mwgwd (neu fygydau) trwy gydol eu hymweliad gan gynnwys yn ystod perfformiadau, oni bai eich bod wedi’ch eithrio (ag eithrio pan yn bwyta neu’n yfed yn yr awditoriwm). Nid oes disgwyl i gwsmeriaid y Bar Caffi wisgo mwgwd wrth eistedd wrth fwrdd. Darganfyddwch fwy am y camau rydym yn eu cymryd i gadw ein cynulleidfaoedd a’n staff yn ddiogel.