Neon Candle, Ceriann Williams a Theatr y Sherman

Dance to the Bone

Crëwyd yn y Sherman Theatre

Ysgrifennwyd gan Eleanor Yates ac Oliver Hoare

Cyfarwyddwyd gan Joe Murphy a Matthew Holmquist

Archive

Adolygiad

25 Mawrth - 2 Ebrill 2022
Amseroedd amrywiol

Gwybodaeth Bellach

  • Gofod: Stiwdio
  • Perfformiad pellter cymdeithasol: 2 Ebrill 2.30yp
  • Iaith: Saesneg
Gwybodaeth pwysig

Sylwch fod Dance to the Bone yn cynnwys rhywfaint o iaith gref, a themâu o farwolaeth a phrofedigaeth.

Beth am fynd i ddawnsio?

“Rwy’n teimlo golau’r haul ar fy mreichiau wrth iddyn nhw chwifio uwch fy mhen, blew yn straenio, statig, yr awyr o gwmpas yn drydanol. Rhaid i fi ddechrau symud. Mae’n anwirfoddol, mae’n herciog, mae’n boenus. Nid dawnsio yw hyn. Mae fel petawn i’n wenyn i gyd, neu’n fflamau i gyd, fy nhraed ar dân, fy mhen wedi’i daflu’n ôl.”

Strasbourg, 1518. Mae twymyn dirgel, sydd weithiau’n farwol, ac sy’n gorfodi’r rhai sydd wedi’u heintio i ddawnsio, yn gwneud ei ffordd drwy strydoedd y ddinas. 500 mlynedd yn ddiweddarach yn ne Cymru, mae’r dwymyn yn dychwelyd. Mae Joanne Bevan, sef gweithwraig unig a rhwystredig mewn canolfan alwadau, yn teimlo ei bod wedi’i datgysylltu oddi wrth ei theulu, ei chymuned a’i chorff ei hunan.

Un diwrnod mae Sant Vitus, sef nawddsant dawnsio, yn ymweld â hi ac yn ei gwahodd i ddawnsio i gael gwared ar ei phroblemau. Ond beth fydd yn digwydd os yw hi wedi anghofio sut i ddawnsio? Beth fydd yn digwydd os na fydd hi’n gallu stopio? Beth fydd yn digwydd os bydd y dwymyn yn lledaenu?

Mae Dance to the Bone yn adrodd hanes Joanne drwy gymysgedd hyfryd a hudolus o ysgrifennu newydd, dawns a cherddoriaeth fyw, gan greu noson ragorol yn y theatr. Ymunwch â ni ar gyfer y daith orfoleddus yma o’r ddinas i’r goedwig.

Beth am fynd i ddawnsio? Mae wedi bod yn rhy hir.

___

Dysgwch am hanes go iawn y pla dawnsio yn Dance to the Bone.

___

2 tocyn am bris 1 ar gael i chwaraewyr Loteri. Mwy o wybodaeth yma.
___

Sylwch nad yw’n ofynnol bellach i aelodau’r gynulleidfa ddangos pas Covid y GIG i gael mynediad i berfformiad.

Gwisgwch fwgwd trwy gydol eich ymweliad.
Rhaid i holl aelodau’r gynulleidfa ac ymwelwyr wisgo mwgwd (neu fygydau) trwy gydol eu hymweliad gan gynnwys yn ystod perfformiadau, oni bai eich bod wedi’ch eithrio (ag eithrio pan yn bwyta neu’n yfed yn yr awditoriwm). Nid oes disgwyl i gwsmeriaid y Bar Caffi wisgo mwgwd wrth eistedd wrth fwrdd. Darganfyddwch fwy am y camau rydym yn eu cymryd i gadw ein cynulleidfaoedd a’n staff yn ddiogel.

Cast
Tîm Creadigol