Lyngo Theatre

Tom Thumb

Theatre
Archive

Adolygiad

23 - 24 Chwe 2022
Amseroedd amrywiol

Gwybodaeth Bellach

  • Iaith: Saesneg
  • Oed: 3+
  • Gofod: Y Stiwdio

Dewch i ymuno â Tom bach ar yr antur enfawr yma!

Un noson, mae Tom yn clustfeinio ar Mam a Dad yn siarad – does dim byd ar ôl i’w fwyta, felly maen nhw’n mynd i’w adael e a’i chwe brawd yn y goedwig!

Drwy dwyllo ei rieni a’r cawr, mae Tom yn dangos i bawb ei fod yn gryf er ei fod yn fach, wrth iddo amddiffyn ei frodyr, dod o hyd i’r trysor, a gwneud yn siŵr na fyddan nhw’n llwglyd byth eto.

Wedi’i pherfformio’n gyfan gwbl ar ben ac o dan fwrdd cegin, mae’r stori glasurol yma’n dod yn fyw mewn sioe chwareus a diddorol sy’n llawn hud Lyngo gydag adar troellog a phluog, tŷ sy’n hedfan a choedwig symudol.
___

Sylwch nad yw’n ofynnol bellach i aelodau’r gynulleidfa ddangos pas Covid y GIG i gael mynediad i berfformiad.

Gwisgwch fwgwd trwy gydol eich ymweliad.
Rhaid i holl aelodau’r gynulleidfa ac ymwelwyr wisgo mwgwd (neu fygydau) trwy gydol eu hymweliad gan gynnwys yn ystod perfformiadau, oni bai eich bod wedi’ch eithrio (ag eithrio pan yn bwyta neu’n yfed yn yr awditoriwm). Nid oes disgwyl i gwsmeriaid y Bar Caffi wisgo mwgwd wrth eistedd wrth fwrdd. Darganfyddwch fwy am y camau rydym yn eu cymryd i gadw ein cynulleidfaoedd a’n staff yn ddiogel.