Theatr y Sherman a Frân Wen

Dynolwaith

Crëwyd yn y Sherman Theatr

Ysgrifennwyd gan a pherfformiwyd gan Leo Drayton

Cyfarwyddwyd gan Gethin Evans

Hygyrch

  • Wed 1 Oct - 7:45pm Captioned
  • Thu 2 Oct - 7:45pm Captioned
  • Fri 3 Oct - 6:30pm Captioned
  • Sat 4 Oct - 7:45pm Captioned
  • Fri 3 Oct - 6:30pm BSL interpreted

Adolygiad

26 Medi - 4 Hyd 2025
Amrywiaeth

Prisiau

Dewiswch Eich Rhagolygon Pris £14 - £18. Dewiswch Eich Safon Pris £16 - £24. O Dan 25 Hanner Pris. Gostyngiadau £2 i ffwrdd.

Gwybodaeth Pwysig

16+.Mae’r darn hwn yn cynnwys deunydd cryf a sensitif, gan gynnwys Goleuadau Strob, Goleuadau’n fflachio, Mwg/Niwl a Synau uchel.

Darganfyddwch fwy yma.

Perfformiad yn para tua 75 munud.

Dyn mewn datblygiad

Mae’n 2015. Mae Jac yn ddyn traws ifanc, wedi’i eni yn y corff anghywir, yn dechrau chwilio am y bywyd mae o wir eisiau ei fyw.

Wrth iddo gychwyn ar y daith o drawsnewid, mae tensiynau’n codi, mae perthnasoedd yn dechrau teimlo’r straen, ac mae’r gefnogaeth sydd wastad wedi bod yn gadarn yn dechrau teimlo’n fregus. Pan gaiff ei wrthod mae’n ei cholli hi ac yn gwthio’i gorff a’i feddwl i’r eithaf.

All Jac ddibynnu ar y rhai agosaf ato pan mae o eu hangen fwyaf?

Wedi ei ’sgwennu a’i berfformio gan Leo Drayton, dyma stori hynod bersonol ac emosiynol am hunan-ddarganfod, dewrder a thrawsnewidiad fydd yn aros yn y cof ymhell ar ôl i’r llenni gau.

Pob perfformiad wedi ei gapsiynu yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Yn dilyn y perfformiadau yn Theatr y Sherman, bydd y cynhyrchiad hwn yn teithio i:

Canolfan Arad Goch, Aberystwyth – 7 Hydref 2025

Galeri, Caernarfon – 9 Hydref 2025

Pontio, Bangor – 10 Hydref 2025

Theatr Derek Williams, Y Bala – 11 Hydref 2025

Perfformiadau BSL:

Theatr y Sherman 30 Medi, 3 Hydref

  • 30 Medi a 3 Hyd – BSL Cathryn McShane
  • 3 Hyd Pre show Deaf Theatre Club BSL Claire Anderson

Pontio, Bangor 10 Hydref

Gweithgareddau a Digwyddiadau

Drwy stori Jac yn Dynolwaith, rydyn ni’n gweld profiad traws un person, ond rydyn ni’n ymwybodol bod llawer iawn mwy o brofiadau a bod pawb yn wahanol. Bydd rhaglen ategol o weithgareddau a digwyddiadau yn rhannu ystod o brofiadau:

Gofod arddangos yn y cyntedd: yn rhannu ymatebion i’r ddrama o fewn y gymuned a darparu lle i aelodau’r gynulleidfa rannu eu meddyliau a’u hymatebion eu hunain

Stondin lyfrau Paned o Gê: 26 Medi a 4 Hydref

Sut allwn ni rannu’r pwysau? Bydd y drafodaeth banel hon yn dilyn y perfformiad ar nos Wener 3 Hydref. Darperir dehongliad Iaith Arwyddion Prydain gan Cathryn McShane.

 

Pecyn Cymorth Dynolwaith

 

Bydd cymorth lles ar gael i gynulleidfaoedd DYNOLWAITH yn Theatr y Sherman ar ôl y perfformiadau canlynol.

Dydd Gwener 26 Medi

Bydd y Stiwdio yn aros ar agor am 30 munud ar ôl y sioe. Bydd yr hyfforddwraig lles Ndidi John ar gael yn yr awditoriwm i ddarparu cymorth i unrhyw un sydd ei angen.

Dydd Mawrth 30 Medi

Bydd y Stiwdio yn aros ar agor am 30 munud ar ôl y sioe. Bydd Chrissie Ciani o Platfform ar gael yn yr awditoriwm i ddarparu cymorth lles i unrhyw un sydd ei angen.

Dydd Sadwrn 4 Hydref

Bydd Chrissie Ciani o Platfform ar gael i ddarparu cymorth lles yng Nghornel y Cyllidwyr. Mae’r cornel wedi’i leoli ar ochr chwith y cyntedd wrth i chi ddod i mewn trwy’r brif fynedfa, lle mae ein cerrig sylfaen a phortread cymunedol o Harry ac Abe Sherman ar ddangos.

Bydd ein hwyluswyr lles yn cynnig lle diogel a chefnogol, boed os hoffech gael sgwrs, cael saib neu eistedd yn dawel. Dydych chi ddim ar eich pen eich hun. – Platfform