National Theatre Connections 2026

Theatr
Archive

Adolygiad

24-26 Ebr 2026
Amrywiaeth

Y gwanwyn hwn, bydd cwmnïau theatr ieuenctid ar draws de Cymru yn ymgartrefu yn Theatr y Sherman fel rhan o ŵyl Connections y National Theatre.

Mae gŵyl Connections yn arddangosfa fywiog o theatr wreiddiol a dawn greadigol pobl ifanc. Bydd naw cwmni theatr ieuenctid lleol yn camu i lwyfan y Brif Theatr i ddod â dramâu newydd gan ddramodwyr arobryn yn fyw.

Ochr yn ochr â pherfformiadau Connections, bydd Theatr Ieuenctid y Sherman yn dychwelyd gyda’u cynhyrchiad o The Blunder Games gan Ffion King. Bydd Theatr Hijinx hefyd yn ymuno, efo’u sioe gwreiddiol newydd.

Ymunwch â ni am ŵyl 3 diwrnod i’ch rhyfeddu, llonni ac ysbrydoli!

Gallwch weld cynifer o sioeau Gŵyl Connections y National Theatre ag y dymunwch gyda thocyn gŵyl am £12; cliciwch uchod ar y botwm ‘gweld dyddiadau a bwcio’ i wneud hyn. Gallwch archebu tocynnau ar gyfer sioeau unigol drwy’r dolenni isod.

Dyma’r dramâu sy’n rhan o ŵyl Connections 2026:

Dydd Gwener 24 Ebrill

Cloud Busting  Ysgol Uwchradd Caerdydd  6.00pm

The Blunder Games – Theatr Ieuenctid Sherman 7.15pm

Dydd Sadwrn 25 Ebrill

Sycamore GapActors Workshop 10.15am

Fishville– Kinetic School of Performing Arts 1.30pm

Cloud BustingYsgol Nantgwyn 4.00pm

Macbeth Macbeth Macbeth Macbeth Macbeth -The Savoy Youth Theatre 7pm

Dydd Sul 26 Ebrill

Britney’s Lock – Everyman Youth Theatre 11.45am

Sycamore GapDolman Theatreworks 3.00pm

Where Art Thou, Romeo? – Hijinx Telemachus 6pm

 

Pris Tocynnau

Tocyn un Perfformiad yn unig: £6

Tocyn Gŵyl: £12