Kinetic School of Performing Arts

Fishville

Theatr

Adolygiad

25 Ebr 2026
1.30pm

Prisiau

Tocyn digwyddiad £6. Tocyn Gŵyl £12.

Gwybodaeth Bellach

  • Gofod: Y Brif Theatr
  • Iaith: Saesneg

Gan Afsaneh Gray

Mae’r stori’n dechrau pan mae dyn ifanc o’r enw Jared yn penderfynu mynd i’r môr mewn dillad nofio, ond nid yw’n dechrau nofio…  Mae ei farwolaeth, sy’n dilyn gwerthiant annisgwyl tŷ ei rieni, yn gadael y gymuned ar chwâl.

Pan fydd merch y dyn a brynodd dŷ Jared yn cyrraedd Saltwell ac yn dod o hyd i droed doredig ar y lan, mae hi a merch yr ‘ail gartrefwyr’ yn penderfynu ymchwilio i beth a achosodd i Jared fynd i mewn i’r môr. Maen nhw’n datgelu chwedl leol am gymuned o dan y dŵr – a oedd Jared yn credu’r chwedl hon? Ar ôl hyn, mae ‘Jared’ yn dechrau gadael negeseuon ar-lein, yn gofyn i’w ffrindiau ymuno ag ef. Gyda thad y ferch newydd yn treulio mwy a mwy o amser yn y môr, ac wrth i fwy o bobl glywed am y chwedl, mae’n rhaid i’r bobl ifanc ddatrys y dirgelwch cyn i unrhyw un arall gael ei golli i greulondeb y môr.