Pan fydd rhywun yn gwasgu’r larwm yn bwrpasol yn ystod arholiad drama TGAU, mae criw o ddisgyblion yn cael eu rhoi mewn atalfa. Wrth iddynt ymdrechu i orffen y tasgau diddiwedd y mae’n rhaid iddynt eu cwblhau fel cosb, maen nhw’n dechrau holi cwestiynau.
Pwy wasgodd y larwm a pham? A ddaw eu hamser yn yr atalfa byth i ben? Ydyn nhw am golli eu marc TGAU? A pham fod Shakespeare yn parhau i fod mor boblogaidd? Felly, dyma ddechrau ar ddadansoddiad meta o’r ddrama wrth i ni symud o’r dosbarth i’r theatr, o’r ystryw i realiti. Mae’r perfformwyr yn cyfnewid rhwng eu cymeriadau a nhw eu hunain wrth iddynt roi Shakespeare, y canon, y system addysg, natur y theatr, a’r byd ei hun ar brawf. Maen nhw’n dechrau amau a yw’r clasuron yn glasuron mewn gwirionedd, neu a oes angen i ni adrodd stori wahanol yn gyfan gwbl…