Chwerthin Mawr. Cweryla Mawr. Calon Fawr. Tref Fach.
Prin iawn y mae’r criw ysgrifennu cod a’r criw ail-greu hanesyddol yn gytûn, ond mae toriadau cyllid yn golygu bod yn rhaid i un o’r ddwy gymdeithas ddod i ben!
Gyda’u dyfodol yn nwylo’r gymuned, maen nhw’n brwydro i ennill cefnogaeth y bobl leol. Ac wrth i’r gystadleuaeth gynyddu, eu cynlluniau hefyd sy’n gwaethygu.
Yn llawn anhrefn, chwerthin, a thamaid o ddifrodi: ymunwch â nhw ar daith igam-ogam wrth iddyn nhw ddysgu nad ydyn nhw mor wahanol â’i gilydd, wedi’r cyfan.
Ein pobl ifanc sy’n dod â’r stori ddigri hon yn fyw. Mae’r awdur, Ffion King, wedi bod yn cydweithredu â charfan Cyflwyniad i Ysgrifennu Dramâu’r Sherman i greu sgript o chwerthin mawr a chalon fawr, sy’n cael ei pherfformio gan aelodau hŷn Theatr Ieuenctid y Sherman.
Dewch i ymuno â’r hwyl!