Stori ddirgel am bwy dorrodd y Goeden Robin Hwd ym Mwlch y Sycamorwydden. Wedi’i osod un diwrnod ar ôl i’r goeden gael ei thorri, mae’r heddlu lleol yn cynnal archwiliad yn ‘yr ysgol’.
Mae deuddeg aelod o glwb eco’r ysgol yn cael eu cadw mewn dosbarth, ac un ar y tro, yn gadael yr ystafell er mwyn cael eu cyfweld nes i’r un sy’n euog gyfaddef ei drosedd. Wrth aros am eu tro, mae’r disgyblion yn dechrau cwestiynu ei gilydd. Pwy all fod wedi gwneud rhywbeth mor erchyll? Beth yn y byd fyddai wedi ysgogi rhywun i wneud y fath beth? Pa effaith fydd hyn yn ei chael ar eu clwb a’u cymuned, nawr bod y goeden wedi mynd? Ac a fydd hi’n bosib i unrhyw un ohonynt symud ymlaen?