Gan Helen Blakeman yn seiliedig ar nofel Malorie Blackman
Pan fydd Sam yn deffro, mae e’n credu y bydd heddiw’r un fath â phob diwrnod arall – ond mae hyn cyn i Mr Mackie ofyn i ddosbarth 8M gyfansoddi cerdd am rywun sy’n bwysig iddyn nhw.
Yn annisgwyl, mae Sam yn dewis ysgrifennu am Davey… roedd Davey yn ffrind i Sam – nid bod Sam eisiau i unrhyw un wybod hynny. Tra oedd merched cŵl y dosbarth yn meddwl fod Davey yn ‘giwt yn yr un ffordd mae ci trist yn giwt’, roedd y bois caled – Morgan a’i griw – yn meddwl fod Davey yn wahanol. Roedd Davey yn hoff o edrych ar gymylau a gweld pa siapau roedden nhw’n eu creu. Roedd Davey yn hoffi edrych ar y byd mewn ffordd wahanol i bawb arall. Ond ta waeth faint roedd Sam yn hoffi cwmni Davey, roedd e wastad yn gwadu eu cyfeillgarwch. Yna, un diwrnod, mae’r bwlio’n mynd cam ymhellach… ond a wnaiff Sam helpu ei ffrind? Nid dyma’r diwrnod arferol yr oedd Sam yn ei ddisgwyl.