Bydd ensemble Telemachus Hijinx yn perfformio eu cynhyrchiad Where Art Thou, Romeo? fel rhan o Ŵyl Connections.
Mae myfyrwyr drama Ysgol Uwchradd Hijinx wedi bod yn ymarfer eu cynhyrchiad o Romeo and Juliet ers wythnosau, ac mae’r noson agoriadol heno. Mae aelodau’r cast wedi ymgynnull ar gyfer un ymarfer olaf… ond does dim sôn o’r prif actor sy’n chwarae rhan Romeo! Yn benderfynol bod yn rhaid i’r sioe fynd yn ei blaen, maen nhw’n penderfynu ymchwilio – ond an allan nhw ddatrys y dirgelwch cyn i’r llenni agor?
Mae’r cynhyrchiad gwreiddiol hwn wedi’i ddyfeisio gan grŵp pobl ifanc Hijinx, Telemachus, gyda chefnogaeth a chyfarwyddyd gan Gareth Tidball.