Cŵn clywed
Mae croeso i gŵn clywed yn y theatr. Gallwn gynnig seddi ar ben y rhes i hwyluso eich ymweliad. Byddwch mor garedig â gadael i’r Swyddfa Docynnau wybod wrth archebu eich tocyn, a gofynnwch am wybodaeth ynglŷn ag unrhyw effeithiau arbennig allai effeithio ar eich ci yn ystod y cynhyrchiad. Fel arall, gall aelod o’n tîm ofalu am eich ci, a byddant yn hapus i ddarparu bowlen ddŵr neu fynd â’r ci am dro. Rhowch wybod i ni ymlaen llaw os oes angen hyn arnoch chi.
Perfformiadau â chymorth
Mae croeso i chi siarad am eich anghenion gydag un o Gynorthwywyr y Swyddfa Docynnau ar 029 2064 6900 fel ein bod yn gallu cynnig y sedd orau bosib i chi.
Edrychwch ar y perfformiadau hygyrch sy’n digwydd yn fuan.
Beth yw perfformiad â chapsiynau?
Golyga capsiynau y gellir trosi’r gair llafar yn destun gweledol, sy’n ei gwneud yn bosib i bobl sydd â nam ar eu clyw gael mynediad at berfformiadau byw. Mae capsiynau a gynhyrchir gan gyfrifiadur, ynghyd ag uned arddangos a osodir ar neu ger y llwyfan, yn galluogi pobl sydd â nam ar eu clyw i ddeall beth sy’n cael ei ddweud a phryd mae’n cael ei ddweud.
Mobile Connect
Mae gwell sain bellach ar gael ym mhob perfformiad drwy’r system ‘Mobile Connect’. I’w ddefnyddio ar eich ffôn (trwy glustffonau), lawrlwythwch yr ap Sennheiser Mobile Connect. Os oes angen i chi fenthyg dyfais, clustffonau neu fanc gwefru, gofynnwch i’n tîm yn y Swyddfa Docynnau.
Ym mhob perfformiad o Under Milk Wood, bydd aelod o’n tîm wrth law yn y Tŷ Cwch (cornel chwith y cyntedd wrth i chi fynd i mewn) i gyflwyno defnyddwyr newydd i’r system ac i fenthyg dyfeisiau, clustffonau a banciau gwefru.