Mi fydd yr artist amlddisgyblaethol arobryn Connor Allen yn perfformio yn ei ddrama hunangofiannol newydd sbon, Forgiveness of a Monster, a gaiff ei chynhyrchu gan a’i pherfformio yn Theatr y Sherman 8-23 Mai 2026.
Mae Forgiveness of a Monster yn dangos Connor yn dysgu o gamgymeriadau ei ieuenctid, yn prosesu’r trawma personol a thros genedlaethau a arweiniodd atynt ac yn dysgu caru’r dyn y mae heddiw.
Mae’n ailuno Connor â’r cyfansoddwr a’r dylunydd sain Oraine Johnson, cynhyrchydd cerddoriaeth drama hunangofiannol gyntaf Connor, The Making of a Monster, a gynhyrchwyd gan Ganolfan Mileniwm Cymru yn 2022. Enillodd fersiwn sain o’r ddrama honno, a ddarlledwyd ar BBC Radio 4 yr un flwyddyn, Wobr Imison.
“Who’s the man you see when you look in the mirror?”
Yn farddonol, yn gyffrous ac yn bersonol iawn, caiff Forgiveness of a Monster ei yrru gan drac sain epig sy’n cyfuno hip hop, soul, R&B a reggae; wedi’i berfformio’n fyw gan y cast sy’n cynnwys Connor ei hun, Oraine Johnson a Mya Fox-Scott. Yn ymuno â Connor ac Oraine yn y tîm creadigol mae’r cyfarwyddwr Tonia Daley-Campbell a’r dylunydd Ebrahim Nazier.
Mae Connor Allen yn artist amlddisgyblaethol arobryn ac yn gyn-Children’s Laureate Wales (2021–2023). Yn Artist Cyswllt yn Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon yng Nghasnewydd, mae wedi gweithio fel perfformiwr gyda rhai o sefydliadau creadigol blaenllaw Cymru. Mae ei gredydau teledu yn cynnwys The Outsiders, The Rapture a Casualty.
Yn gyn-aelod o Leisiau Cymraeg y BBC, Grŵp Awduron Cymreig y Royal Court ac Writers at Work Gŵyl y Gelli, mae gwaith Connor yn archwilio themâu hunaniaeth, gwrywdod, cariad a galar. Cyhoeddwyd ei gasgliadau barddoniaeth Dominoes a Miracles yn 2023, ac mae ganddo Ddoethuriaeth Anrhydeddus mewn Llenyddiaeth o Brifysgol De Cymru.
Mae gan Connor berthynas hirdymor â Theatr y Sherman hefyd; mae wedi bod yn fentor hirdymor yn rhaglen Cyflwyniad i Ysgrifennu Dramâu‘r cwmni, ac yn 2023 ymunodd â’i rhaglen ddatblygu Ymdaith, â’r nod o helpu awduron profiadol i ddatblygu i’r cam nesaf yn eu gyrfaoedd trwy ganolbwyntio ar greu gwaith ar gyfer cynulleidfaoedd mwy a mannau mwy.
Gyda chymorth comisiynau hadau, mewnbwn dramatig a gofod ymchwil a datblygu, fe wnaeth Ymdaith ganiatáu i Connor greu Forgiveness of a Monster, ei gynhyrchiad cyntaf ar raddfa lawn yn y Sherman; a chynhyrchiad cyntaf Crёwyd gan y Sherman 2026.
Dywedodd Connor Allen: “Mae Forgiveness of a Monster yn dwyn ynghyd daith o dwf ac empathi rydw i wedi bod arni dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Mae pobl yn dweud nad ydych chi bob amser yn sylweddoli eich bod chi wedi bod ar daith nes i chi oedi, edrych yn ôl a gweld yr holl olion traed a’ch arweiniodd i ble rydych chi nawr. Fi yn rhannu rhai o’r olion traed hynny wrth i mi ddilyn ymlaen o lwyddiant fy sioe hunangofiannol gyntaf yw Forgiveness.
“Mae popeth rwy’n ei greu yn ymgais i ddod yn agosach at wreiddyn y cyflwr dynol ac mae Forgiveness yn gam arall yn yr ymgais honno. Pennod arall yn fy llyfrgell o waith. Fel plentyn i ddau ddiwylliant a dau fyd, cefais fy magu mewn ardal lwyd, heb deimlo’n ddigon du nac yn ddigon gwyn. Mae’r sioe hon yn rhan o’r daith o wneud heddwch â hynny… o ddeall fy stori fy hun a stori’r rhai a’m creodd.”
Dywedodd Julia Barry, Prif Weithredwr Theatr y Sherman: “Nid yn unig y mae Connor wedi bod yn rhan o deulu Sherman ers blynyddoedd lawer – gan gynnwys fel actor a hyd yn oed aelod o staff – ond mae hefyd yn llais arwyddocaol ym myd diwylliannol Cymru; talent enfawr ar bapur, ar y llwyfan a’r sgrin a wyneb yn wyneb, a chyda stori bersonol ryfeddol i’w ddweud. Mae’n bleser llwyr rhannu’r ddrama bwerus newydd hon ganddo gyda’n cynulleidfaoedd.”