THEATR Y SHERMAN YN CYHOEDDI YSGRIFENWYR SYDD WEDI CAEL EU GWAHODD I GYMRYD RHAN YN RHAGLEN YMDAITH

Uncategorized @cy

Mae Theatr y Sherman wedi cyhoeddi mai Connor Allen, Ciaran Fitzgerald a Mari Izzard sydd wedi’u dewis i gymryd rhan yn Ymdaith, ei rhaglen ddatblygu newydd ar gyfer ysgrifenwyr sefydledig. Nod Ymdaith yw helpu’r ysgrifenwyr yma i ddatblygu camau nesaf eu gyrfaoedd trwy ganolbwyntio ar greu gwaith ar gyfer cynulleidfaoedd mwy niferus a gofodau ehangach. Bydd yr ysgrifenwyr yn derbyn mentoriaeth, datblygiad, a’r amser a’r gofod i wneud eu gwaith. Daw’r rhaglen i ben gyda thri deg munud o waith yn cael ei berfformio mewn darlleniad â sgript-mewn-llaw. Mae Ymdaith yn rhan o waith helaeth y Sherman fel ystafell injan theatr Gymreig i feithrin a chefnogi artistiaid Cymreig ac sy’n byw yng Nghymru. Mae’r Sherman yn ymrwymedig i newid pwy sy’n cael dweud eu straeon ar ein llwyfannau ac yn y sector yn gyffredinol. Gan ystyried yr ymrwymiad yma, mae Ymdaith yn canolbwyntio ar gefnogi lleisiau sy’n cael eu tangynrychioli a chynigir llefydd trwy wahoddiad yn unig.

Connor Allen yw’r Children’s Laureate of Wales bresennol ac artist cyswllt The Riverfront yng Nghasnewydd. Enillodd ei ddrama The Making Of A Monster y Wobr Imison am ei darllediad ar Radio 4 ac fe gafodd ei lwyfannu yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yn 2022.

Mae Ciaran yn gyn-aelod o Writers Group Theatr y Sherman 2021/2022. Mae Ciaran Fitzgerald yn ddramodydd a sgriptiwr i’r sgrin anabl o Bort Talbot. Bydd ei beilot teledu Bwmp yn cael ei ddarlledu ar S4C yn nes ymlaen eleni. Mae Ciaran hefyd wedi ysgrifennu i The Other Room a Theatr Clwyd.

Mae dramâu Mari Izzard yn cynnwys Hela (The Other Room), The Ongoing, Internal Search for Da (Theatr Clwyd). Ysgrifennodd addasiadau Cymraeg ar gyfer A Midsummer Night’s Dream (Theatr y Sherman) gyda Nia Morais ac mae’n gweithio gyda Sky Studios ar ddatblygu ei drama Spoffin.

Dywedodd Rheolwr Llenyddol Theatr y Sherman, Davina Moss, “Mae Ymdaith yn cynnig comisiwn-hedyn i’n hartistiaid mwy profiadol yn ogystal â chefnogaeth y Sherman i ddatblygu ac ehangu eu hysgrifennu. Mae’r rhaglen yn cynnig cymorth personol i bob un o’r ysgrifenwyr i sicrhau eu bod yn gallu cyflawni eu gwaith gorau. Gan weithio gyda’r Adran Lenyddol, anogir yr ysgrifenwyr hyn i fod yn uchelgeisiol ac i ffocysu ar y gynulleidfa, ac rydym yn gobeithio gweld gwaith pob un ohonynt ar ein llwyfannau cyn bo hir.

Rydym mor gyffrous bod Connor, Ciaran a Mari yn ymuno â ni ar y daith hon. Maen nhw gyd yn artistiaid unigryw a chyffrous, ac mae eu lleisiau’n hollbwysig i archwilio Cymru gyfoes. Ni allwn aros i weld beth fyddant yn ei greu.

Mae rhaglenni datblygu ysgrifennu eraill Theatr y Sherman yn cynnwys Ymchwilio ar gyfer rheiny sydd ar ddechrau eu taith fel ysgrifenwyr ac Ymestyn sydd ar gyfer rheiny sydd wedi ysgrifennu o leiaf un ddrama lawn.