Adolygiad
2 Tach a 25 Tach 2024 - 4 Ion 2025Prisiau
£9.50. Ysgolion £6.50.
Gwybodaeth Bellach
- Iaith: Cymraeg
- Gofod: Stiwdio
- Oedran: 3 - 6
Dangosiad Rhyngwladol Cyntaf
Stori hudolus sy’n gyflwyniad perffaith i’r theatr i blant bach 3 – 6 oed.
Mae hi’n Nadolig. Amser i fwynhau, dathlu a rhannu anrhegion. Mae Red wrth ei bodd yn derbyn anrhegion, a phan mae clogyn coch arbennig yn ymddangos yn ei hosan Nadolig, mae yna gyffro drwy’r tŷ!
Wrth fynd am dro i weld ei mam-gu, mae hi’n mynd ar goll yn y goedwig ac yn cyfarfod blaidd llwglyd. Er bod y blaidd yn chwarae triciau arni ac yn ei thwyllo, mae’r ddau’n dod i nabod ei gilydd ac yn darganfod bod llawer mwy i’r Nadolig nag anrhegion a theganau newydd. Ymunwch â Red am antur hudolus a gwledd o ganeuon hyfryd dros yr ŵyl. Rydyn ni’n addo y byddwch chi wrth eich boddau.
Bob Nadolig rydyn ni’n cyflwyno drama i blant sy’n cynnig fersiwn newydd sbon o stori dylwyth teg glasurol. Dros y blynyddoedd mae ein sioeau dychmygol, llawn hwyl a sbri, wedi bod yn gyflwyniad arbennig i’r theatr i filoedd o blant. Yn dilyn llwyddiant ysgubol Hansel a Gretel y llynedd mae Katie Elin-Salt yn dychwelyd gyda’i hail sioe Nadolig i blant bach dan 7 oed.
Mae’r perfformiad hyn yn Gymraeg. Bydd Little Red Riding Hood yn cael eu berfformio yn Saesneg ar perfformiadau gwahanol.
Bydd y perfformiadau ar 1 a 2 Tachwedd yn Talwch Beth Fynnwch. Byddant yn mynd ar werth yng nghanol 2024.
Cefnogir gan Theatr Genedlaethol Cymru
Gwybodaeth Ysgolion
Meddwl mynd am drip Nadolig eleni? Mae dod a grŵp i Theatr y Sherman yn hawdd. Am fwy o wybodaeth am fanteision dod a grŵp Ysgol i’r Sherman dilynwch y linc yma.
Tocynnau bargen cynnar ar gyfer Ysgolion:
Bargen cynnar: £6
I archebu a dalu cyn Dydd Gwener 12 Gorfennaf
Pris Ysgol: £6.50
Yn berthnasol i archebion a wneir ar ôl dydd Gwener 12 Gorffennaf.
I archebu grŵp ysgol cysylltwch â’n Swyddfa Tocynnau ar 029 2064 6900 neu gyrrwch e-bost i box.office@shermantheatre.co.uk