Yn gwisgo gŵn nos fudr, mewn cegin wledig, mae Violet yn gwenu o’r diwedd. Ers blynyddoedd lawer, mae ei threfn ddyddiol flinedig yn cael ei rheoli gan daro cyson Cloc y Tŵr – ond un noson mae hi’n teimlo amser yn cyflymu. Yn sydyn, mae awr yn mynd ar goll – bob dydd. Wrth i’r oriau ddiflannu, mae’r hyn a fu’n sicr ers cyhyd yn anweddu, a chymdeithas drefnus yn mynd ar gyfeiliorn. Gyda thrigolion y dref mewn argyfwng, a fydd Violet yn gallu dianc o’r diwedd?