Cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru a Theatr Iolo, mewn cydweithrediad â Pontio

Pijin | Pigeon

Theatr
Archive

Adolygiad

7 - 10 Maw
Maw - Gwe 7.30yh, pryhnawn Iau 2.00yb

Gwybodaeth Bellach

  • Gofod: Y Brif Theatr
  • Iaith: Mae’r Gymraeg a’r Saesneg yn cyd-blethu, a phob perfformiad yn cynnwys capsiynau Cymraeg a Saesneg.
  • Hyd: 95 munud, dim egwyl
Gwybodaeth Pwysig

Mae’r cynhyrchiad hyn yn cynnwys iaith gref ac yn cynnwys rhai pynciau sensitif. Am mwy o wybodaeth, cliciwch yma. 

Mae Pijin yn werth y byd. Wel, dyna farn Iola, ei ffrind gorau. Mae’n ddewr, yn ddoniol a braidd yn beryglus, ac mae hi wrth ei bodd yn ei gwmni. Ond, mae bywyd ymhell o fod yn felys.

Yn seiliedig ar nofel Pigeon gan Alys Conran
Addasiad llwyfan gan Bethan Marlow
Cyfarwyddwyd gan Lee Lyford

Mae Pijin yn dyheu am gael dianc o’r bywyd sy’n aros amdano wrth fynd adref bob nos. Dychymyg, straeon a geiriau yw’r unig ffordd o oroesi. Ond un dydd, nid yw geiriau’n ddigon. Mae ei waliau’n chwalu’n deilchion a bywyd yn newid am byth.

Wedi’i lleoli yng nghysgod chwareli’r gogledd yn y ’90au cynnar, dyma stori afaelgar am dyfu i fyny, am bŵer geiriau, cyfeillgarwch a pha mor bell mae pobl yn fodlon mynd yn enw cariad.

Yn seiliedig ar y nofel lwyddiannus Pigeon gan Alys Conran ac wedi’i haddasu i’r llwyfan gan Bethan Marlow. Mae’r Gymraeg a’r Saesneg yn cyd-blethu, a phob perfformiad yn cynnwys capsiynau Cymraeg a Saesneg.

Sain Ddisgrifio
Dydd Iau, Mawrth 9, 7.30yh: Sain ddisgrifio yn Saesneg. Bydd disgrifydd sain yn dweud wrthych beth sy’n digwydd ar y llwyfan yn Saesneg. Yn ogystal â’r disgrifiad sain, bydd actor yn darparu cyfieithiad byw o’r Gymraeg i’r Saesneg o’r sgript, drwy’r un clustffon.

Bydd y sain ddisgrifio yn cael ei wneud trwy’r Saesneg gan Michelle Perez, tra mae Eilir Gwyn yn cyfieithu’r deialog Cymraeg mewn i Saesneg. Mi fydd y Daith Cyffwrdd gysylltiedig yn cael ei wneud trwy’r Saesneg ac yn cael ei arwain gan Michelle Perez.

Dydd Gwener, Mawrth 10, 7.30yh: Sain ddisgrifio yn y Gymraeg. Bydd disgrifydd sain yn dweud wrthych beth sy’n digwydd ar y llwyfan yn y Gymraeg. Bydd y disgrifiwr yn gadael bylchau fel y gallwch wrando ar y ddeialog Gymraeg a Saesneg yn cael ei dweud gan yr actorion ar y llwyfan.

Bydd y sain ddisgrifio yn cael ei wneud trwy’r Gymraeg gan Eilir Gwyn. Mi fydd y Daith Cyffwrdd gysylltiedig yn cael ei wneud yn Gymraeg a hefyd yn cael ei arwain gan Eilir Gwyn.

Taith Gyffwrdd
Bydd Taith Gyffwrdd ar gael un awr cyn pob perfformiad Sain Disgrifiad o Pijin | Pigeon ar gyfer aelodau’r gynulleidfa sy’n ddall neu’n rhannol ddall. Yn ystod y daith, bydd cyfle i chi gyffwrdd â darnau o’r set, gwisgoedd a phropiau pwysig er mwyn eich helpu i fwynhau’r sioe.

BSL

Dydd Iau, Mawrth 9, 7.30yh: Cathryn McShane