Lyngo Theatre

Egg and Spoon

Teulu Theatr
Archive

Adolygiad

20 - 21 Chwe
Amrywiaeth

Gwybodaeth Bellach

  • Gofod: Stiwdio
  • Hyd: 45 munud heb egwyl
  • Oedran: 1-5

Ni fydd plant ifanc iawn yn gallu eistedd yn llonydd i wylio sioe ac nid oes disgwyl iddynt wneud hynny.

Mae Egg and Spoon yn daith ryngweithiol trwy’r tymhorau, ac fe fyddwch chi’n dod i mewn ac allan o’n cylch hud ac yn agor holl anrhegion natur.

Bydd Percy ac April yn gwneud yn siwr eich bod wedi setlo ar ein clustogau cyfforddus ac yn eich cyflwyno i Birdy, sy’n dal i guddio yn ei ŵy disglair. Bydd rhaid i ni aros tan y Gwanwyn os ydym am ei weld ef, felly mae’n bryd cychwyn ar ein taith ymarferol trwy’r flwyddyn. Byddwn yn rhedeg trwy’r glaw a gwylio dail yn cwympo, yn cysgu dan yr eira nes i’r haul ein deffro ar gyfer y parti pili-pala. Mae Egg and Spoon yn berffaith fel cyflwyniad tyner i hud y theatr.

Mae pob perfformiad yn berfformiad ymlaciedig.