Frân Wen

Croendena

Theatr

Ysgrifennwyd gan Mared Llywelyn

Cyfarwyddwyd gan Rhian Blythe

Archive

Adolygiad

16 - 17 Chwe
7.30yh

Gwybodaeth Bellach

  • Lleoliad: Stiwdio
  • Iaith: Cymraeg
  • Hyd: 75 munud (dim egwyl)
Rhybuddion Cynnwys Cynulleidfa:

14 +

Yn cynnwys delweddau fflachio, iaith gref, golygfeydd o natur rywiol a defnydd o effaith mwg.

Seshis yn y pyb. Dyddia lan môr. Cywilydd corff. Straeon a sibrydion. Hogia, hela a ffymbls maes parcio'r National Trust.

Mae’r haf ar droed. Mae’r gens yn barod am bartis ac mae bywyd yn llawn posibiliadau. Tra bod rhai perthnasau’n blodeuo, mae eraill yn dirywio. Ond ydi Nel yn gallu delio hefo hyn?

Betsan Ceiriog sy’n serennu yn y ddramedi Gymraeg newydd yma am ferch ifanc sy’nbenderfynol o ddilyn llwybr ei hun.

Croendena yw cynhyrchiad diweddaraf y dramodydd ifanc Mared Llywelyn sy’n un o leisiaumwya’ cyffrous theatr Cymru.

Yn gomisiwn newydd gan Frân Wen, mae’r fonoddrama yn cael ei chyfarwyddo gan Rhian Blythe.

Dydd Iau 16 Chwefror – Capsiynau Agored, a dehongliad BSL gan Cathryn McShane.

Mi fydd y Capsiynau yn y Gymraeg ac yn Saesneg.