Grŵp theatr yw Sherman Players yn bennaf, ond mae ein sesiynau yn cael eu harwain gan dîm ymroddedig sydd hefyd yn ehangu’r sesiynau tu hwnt i actio a theatr yn unig. Rydyn ni’n defnyddio’r technegau hynny i’ch helpu chi i fagu hyder, dysgu sgiliau newydd, cael hwyl a chwrdd â phobl newydd. Rydyn ni’n gwybod bod y sgiliau hyn yr un mor bwysig ag unrhyw brofiadau theatrig rydych chi’n eu profi gyda ni.
Bydd pob wythnos yn dod â gwahanol gyfleoedd i ddysgu am greu theatr trwy gynllunio, ysgrifennu sgriptiau ac actio.
Mae Sherman Players yn agored i bawb waeth beth fo’u gallu neu eu hamgylchiadau. Rydym yn gwybod y bydd rhai pobl yn awyddus i ymuno, ond yn teimlo’n ansicr am gymryd y cam cyntaf.
Rydym yma i’ch cefnogi chi. Rydym yn sicr y gallwn ddiwallu y mwyafrif o anghenion a gofynion. Os hoffech chi gael sgwrs, cysylltwch â Tim Howe timothy.howe@shermantheatre.co.uk.
YMUNWCH NAWR
Mae sesiynau Sherman Players yn cael eu cynnal bob nos Iau rhwng 7.30yh – 9.30yh yn ystod y tymor ysgol ac yn costio £65 fesul hanner tymor.
Mae’r sesiynau yn wythnosol ond does dim pwysau i chi fynychu bob un.
Cynllun Bwrsariaeth Theatr y Sherman
A oes gennych ddiddordeb mewn ymuno ag un o’n grwpiau Sherman Sherbets, Theatr Ieuenctid neu Sherman Players?
A allwch chi fod yn gymwys i wneud cais am gymorth ariannol ysgoloriaeth lawn neu rannol?
Mae ceisiadau bellach ar agor ar gyfer dechrau tymor ym mis Medi.