The Women of Llanrumney

Crëwyd yn y Sherman Theatr

Ysgrifennwyd gan Azuka Oforka

Cyfarwyddwyd gan Patricia Logue

Archive

Adolygiad

16 Mai - 1 Meh
Amrywiaeth

Gwybodaeth Bellach

  • Iaith: Saesneg
  • Gofod: Stiwdio
  • Hyd: 2 awr 15 munud yn cynnwys egwyl
Gwybodaeth Pwysig

Mae’r sioe hon yn delio â chaethwasiaeth, yn cynnwys geiriau hiliol o’r dechrau, golygfeydd a allai beri gofid i aelodau’r gynulleidfa, cyfeiriadau at drais a chamdriniaeth ac yn cynnwys iaith gref. Am fwy o wybodaeth, cliciwch yma.

Daw gorffennol trefedigaethol Cymru wyneb yn wyneb â’i hun yn nrama hanesyddol ddifrodus Azuka Oforka.

Sylwch fod holl berfformiadau The Women of Llanrumney wedi gwerthu allan ar hyn o bryd ond gwiriwch nôl rhag ofn fydd unrhyw ddiweddariadau am argaeledd. Gallwch hefyd ymuno â’r rhestr aros ar gyfer unrhyw berfformiad drwy ffonio’r Swyddfa Docynnau ar 029 2064 6900.

Wedi’i gosod yng nghyfnod trefedigaethol Jamaica yn y 18fed ganrif, mae drama danbaid newydd Azuka Oforka yn archwiliad pwerus o brofiad menywod yn ystod caethwasiaeth – rheiny ag elwodd ohono, rheiny a brofodd ei greulondeb, a’r rheiny a frwydrodd i’w ddinistrio. Mae The Women of Llanrumney yn rhoi Cymru a’i rhan yng nghaethwasiaeth yng nghanol y llwyfan; gan oleuo pennod gudd yn hanes Cymru.

Yr hanes

Planhigfa Llanrumney. Plwyf Saint Mary, Jamaica. 1765. Mae Annie a Cerys wedi eu caethiwo gan y teulu Morgan o Gymru. Mae eu dyfodol yn y fantol pan fydd Elizabeth Morgan yn wynebu colli ei phlanhigfa. Gan ofni beth all fod o’i blaen, mae Annie yn gwneud popeth o fewn ei gallu i sicrhau ei safle yn y Tŷ Mawr. Ond hwyr neu’n hwyrach, gyda storm o wrthryfel yn tyfu o’i chwmpas, bydd yn rhaid i Annie wynebu’r arswyd a’r trawma o’i chwmpas, gan gynnwys ei rhai hi.

Cyhoeddir The Women of Llanrumney Azuka Oforka fel llais newydd mawreddog yn y theatr yng Nghymru. Dyma ddrama danbaid newydd sy’n rhaid ei gwylio gan unrhyw un sy’n chwilio am ddrama bwerus a difrifol.

Pum ffaith am The Women of Llanrumney:

1. Sir Henry Morgan oedd yn berchen a Phlanhigfa Llanrumney. Heddiw, mae enw Morgan yn ddigon adnabyddus ond bosib nad yw ei ran yng nghaethfasnach mor adnabyddus. Yn wreiddiol o ardal Llanrhymni Caerdydd (a oedd yn rhan o Sir Fynwy ar y pryd), roedd Morgan yn fasnachwr caethweision, yn berchen ar dair planhigfa yn Jamaica. Enwodd un o’r planhigfeydd ar ôl ei fan geni a dyma le mae ein drama wedi’i gosod.

2. Drama lawn cyntaf Azuka Oforka yw The Women of Llanrumney. Maw hi’n un o gyn-fyfyrwyr rhaglen datblygu dramodwyr Unheard Voices Theatr y Sherman.

3. Yn cyfarwyddo’r cynhyrchiad mae Patricia Logue, Artist Cyswllt Theatr y Sherman, ac yn dychwelyd i’r Sherman yn dilyn ei chynhyrchiad clodwiw o Lose Yourself gan Katherine Chandler yn 2019.

4. Fel cynllunydd, mae Stella-Jane Odoemelam yn trawsnewid y Stiwdio yn rhyfeddol i gyfleu urddas y Tŷ Mawr sy’n araf bylu.

5. Tra bod The Women of Llanrumney yn cyfleu arswyd a phoen, mae hiwmor a ffraethineb hefyd i’w canfod ymhlith y creulondeb yn nrama ryfeddol Azuka Oforka.

Mae’r seddi yn y Stiwdio heb eu cadw. Mae Dewiswch Eich Pris yn caniatáu chi i ddewis faint hoffwch chi dalu ar gyfer eich sedd.

23 Mai, 7.30yh: capsiynau gan Erika James
29 Mai, 7.30yh: sain ddisgrifio gan Michelle Perez. Audio flyer
29 Mai, 6.45yh: Taith Cyffwrdd. I archebu lle, plîs cysylltwch â Swyddfa Tocynnau’r Sherman ar 029 2064 6900
30 Mai, 7.30yh: capsiynau gan Erika James
30 Mai, 7.30yh: BSL gan Nikki Champagnie Harris trailer BSL (cefnogaeth cyn ac ar ôl sioe gan Claire Anderson.)
31 Mai, 6.30yh: Sgwrs ar ôl sioe

Sgwrs ôl sioe am ddim sydd yn uwcholeuo y pwysigrwydd o ddangos straeon ynglŷn â Hanes Du a’r effaith cynrychiolaeth ar y llwyfan.
Fydd ein panel yn cael ei arwain gan Ndidi John(Ysgrifennwr, Perfformiwr, Hwylusydd a Ymarferydd lles) yn cael ei ymuno gan:

Azuka Oforka (perfformwr ac ysgrifennwr The Women of Llanrumney)
Abu-Bakr Madden Al-Shabazz (Hanesydd Cymdeithasegydd Cymharol, Seicolegydd, Addysgwr a Seicotherapydd)
Chantelle Haughton (Academig, Addysgwr, Ymgynghorydd, Sylfaenydd DARPL, Cyd-gadeirydd ARWAP a The Black Leadership Group Wales, Cadeirydd Hanes Pobol Dduon Cymru 365)

Bydd cefnogaeth ychwanegol ar gael gan ein Hwyluswyr Lles Ndidi John a Mo Jannah, mewn man penodedig yn y cyntedd yn dilyn perfformiadau ar 29 a 30 Mai. Mae’r ddarpariaeth hon ar gyfer unrhyw un sydd eisiau siarad â rhywun, neu sy’n gweld cynnwys y ddrama yn arbennig o heriol.

Ffotograffydd Ymarfer a Chynhyrchiad gan Ana Pinto.

Mae The Women of Llanrumney wedi cael eu cynnwys yn rhestrau “Best theatre, dance and comedy tickets to book in 2024” The Guardian a “Top new plays to see in 2024” WhatsOnStage.

Mae noson y wasg ar Ddydd Mercher 22 Mai.