The Wife of Cyncoed

Crëwyd yn y Sherman Theatr

Ysgrifennwyd gan Matt Hartley

Cyfarwyddwyd gan Hannah Noone

Archive

Adolygiad

7 - 23 Maw 2024
Amrywiaeth

Gwybodaeth Bellach

  • Iaith: Saesneg
  • Gofod: Stiwdio
  • Hyd: Tua 80 munud
Gwybodaeth Pwysig

Mae’r sioe hon yn cynnwys golygfeydd o natur oedolion a rhywiol ac yn cynnwys iaith gref.

Mae bywyd ar ddechrau

Dewch i weld eich dinas a’ch strydoedd dan olau newydd gyda drama un fenyw, hynod o ddifyrrus Matt Hartley, yn serennu Vivien Parry (Cabaret yn y Kit Kat Club West End).

Mae bywyd Jayne wedi cyrraedd croesffordd. Wedi ei magu yn Nhredelerch, bu’n byw bywyd da yng Nghyncoed, ond ar ôl ysgariad chwerw symudodd i fyw ar ei phen ei hun yn Lakeside. Newydd ymddeol ac yn chwith gyda’i phlant, yn ddirybudd mae’n dod ar draws ffordd newydd o fyw. Ond a wneith hi ganiatáu ei hun i fyw ei bywyd newydd yn gyflawn?

Yn dyner a phleserus, mae The Wife of Cyncoed yn stori am hunan ddarganfyddiad sydd hefyd yn llawn bywyd a chwerthin. Erbyn diwedd stori Jayne, byddwch chi’n gwybod nad yw hi byth yn rhy hwyr am gyfle arall a darganfod pwy ydych chi mewn gwirionedd.

Mae’r seddi yn y Stiwdio heb eu cadw. Mae Dewiswch Eich Pris yn caniatáu chi i ddewis faint hoffwch chi dalu ar gyfer eich sedd.

Sain Ddisgrifio gan Jana Holesworth – 19 Mawrth, 7.30yh. Dyma Gyflwyniad Sain.
BSL gan Claire Anderson – 21 March, 7.30yh

Bydd sgwrs ar ôl y sioe ar 21 Mawrth 11yb. Fydd siaradwyr yn cynnwys:
Vivien Parry (Jayne yn The Wife of Cyncoed)
Linda Spillane (Triathlon/Ironman Competitor)
Nerys Thomas (Fundraising Trekker)
Tony Baines (u3a)