Milky Peaks

Theatre
Archive

Adolygiad

4 - 7 Mai 2022
7:30yh

Gwybodaeth Bellach

  • Gofod: Y Brif Theatr
Gwybodaeth Pwysig

Mae Milky Peaks yn cynnwys iaith gref a chynnwys rhywiol.

Sioe gerdd newydd hynod ddoniol

Ym mynwes Eryri mae tref Milky Peaks yn swatio: yn hyfryd o Gymreig a’r pebble-dash ym mhob man yn sgleinio. Mae’n lle gwych i fyw ynddo. Gan fwyaf.

Mae Dewi, y derbynnydd gwych yn y gwesty, newydd ddod allan ac mae’n dyheu am fod yn arbennig. Mae’r Fam yn caru Cymru a’i theulu, biti na fydden nhw’n gwybod ei bod hi yno. Mae’r frenhines ddrag Pariah Carey yn boddi ei gorffennol mewn absinthe gyda swarfega i ddilyn; tra mae Linda yn rhedeg Canolfan y Celfyddydau gyda dwrn haearn, yn hynod ofnus am gynnal unrhyw beth od yno. Ac Alun John, arwr y clwb rygbi a pherchennog tir pwdr sy’n filiwnydd? Dim ond eisiau i bawb fod yn hapus mae o.

Mae’n dref Gymreig normal.

Ond pan mae’n cael ei henwebu yn “Dref Orau Prydain” gan sefydliad tywyll, amheus, mae popeth mae’n sefyll drosto’n wynebu perygl o gael ei golli. Oes posib achub enaid y dref?

Sioe gerdd newydd ddisglair wedi’i hysgrifennu gan yr awdur / cyfansoddwr arobryn o Gymru, Seiriol Davies, ac mae’n serennu ynddi hefyd wrth iddo ailymuno a’r tîm o How To Win Against History. Gallwch ddisgwyl hiwmor cyflym, baledi pwerus, coreograffi craff a chaneuon bachog a fydd yn aros yn y cof am amser hir.

Noson berffaith ar gyfer pobl sy’n hoff o sioeau cerdd neu gomedi!

Ysgrifenwyd a Chyfansoddwyd: Seiriol Davies
Cyfarwyddwyd: Alex Swift
Dyfeisiywdd: Seiriol Davies, Matthew Blake, Dylan Townley
Cynllunydd: Janet Bird
Cyfarwyddwr Cysylltiol: Matthew Blake
Cyfarwyddwr Cerddorol: Dylan Townley
Cynllunydd Goleuo: Kevin Treacy
Cynllunydd Sain a Chynhyrchydd Cerddoriaeth: Chris Bartholomew
Coreografydd: Ewan Jon
Hyfforddwr Llais: Nia Lynn

Theatr Clwyd | Áine Flanagan Productions | Seiriol Davies
___

Sylwch nad yw’n ofynnol bellach i aelodau’r gynulleidfa ddangos pas Covid y GIG i gael mynediad i berfformiad.
Mae gwisgo mwgwd yn cael ei annog.
Darganfyddwch fwy am y camau rydym yn eu cymryd i gadw ein cynulleidfaoedd a’n staff yn ddiogel.