Goldilocks

Crëwyd yn y Sherman Family Nadolig Theatr

Ysgrifennwyd gan Elgan Rhys

Cyfarwyddwyd gan Nia Morris

Archive

Adolygiad

28 Tach – 31 Rhag 2022
Amseroedd amrywiol

Gwybodaeth Bellach

  • Gofod: Stwidio
  • Oed: 3 - 6
  • Iaith: Saesneg. Gwelir Elen Benfelen ar gyfer y perfformiadau trwy gyfrwng y Gymraeg.
  • Hyd: 55 munud heb egwyl

Ar gyfer oedrannau 3-6

Hwyliog. Cyfeillgar. Hapus.

Yn Nhrefelen, mae yna reolau rhaid i bawb eu dilyn. Os nad oes gennych chi wallt melyn, rydych chi’n wahanol. Ac nid Trefelen yw’r lle i fod os ydych chi’n wahanol…

Un dydd, mae gwallt Elen yn dechrau troi’n las. Mae hyn yn ei hanfon yn bell i ffwrdd o Drefelen, ac o’i Nain, maer y dref. Tybed pwy fydd hi’n cwrdd ar hyd y ffordd? A fydden nhw’n gallu helpu Elen i newid rheolau ei Nain?

Beth allwch chi ei ddisgwyl wrth wylio Elen Benfelen?
Bob Nadolig yn Stiwdio’r Sherman caiff plant 3 i 6 oed ar draws Caerdydd a De Cymru eu blas cyntaf o’r theatr. Addasiad newydd Gymraeg Elgan Rhys o stori Elen Benfelen yw’r sioe berffaith i gyflwyno plant i hud y theatr dros y Nadolig.

Popeth sydd angen i chi ei wybod am Elen Benfelen:

Y stori rydych chi’n ei hadnabod ac yn ei charu, ond gyda thro gwahanol
Mae addasiad newydd Elgan Rhys o Elen Benfelen yn edrych ar y stori boblogaidd hon mewn ffordd wahanol.

Sioe sy’n llawn lliw, cerddoriaeth a hwyl
Adroddir stori Elen Benfelen gan ddefnyddio setiau a gwisgoedd hardd, caneuon bachog a phypedwaith hudolus. Gobeithiwn y byddwch yn gadael y theatr yn canu’r caneuon ac yn sgwrsio am y sioe.

Profiad anffurfiol a chyfeillgar
Perfformir Elen Benfelen gan gast o dri actor, mewn awyrgylch anffurfiol, ac mae’n para pum deg munud yn unig – y cyflwyniad perffaith i’r theatr.

Mae’n ymwneud â dathlu gwahaniaeth
Mae Elen Benfelen yn dathlu gwahaniaethau yn ei holl ffurfiau, ac yn dathlu pwysigrwydd bod yn chi eich hun.

Bob blwyddyn rydym yn perfformio ein sioe Nadolig yn y Stiwdio yn Gymraeg a Saesneg. Goldilocks yw’r cyfieithiad Saesneg o addasiad Cymraeg Elen Benfelen. Bydd y sioe wreiddiol iaith Gymraeg yn cael ei pherfformio mewn perfformiadau ar wahân.

 

Mae pris popeth fel petai ar gynnydd ar hyn o bryd, ac rydyn ni eisiau sicrhau bod cost tocynnau o fewn cyrraedd cymaint o bobl â phosib:

  • Gall 2 Oedolyn a 2 Blentyn weld Goldilocks am lai na £40 (yn amodol ar argaeledd).
  • Rhannwch gost eich tocynnau ar gyfer y sioe yn ddau daliad hafal, gydag un taliad wrth archebu a’r llall wythnos cyn y perfformiad.

Ffoniwch 029 2064 6900 i ddysgu mwy (ar gael i archebion o £20 neu fwy).

Perfformiad CAP 10 Rhagfyr, 11:00yb – gan Erika James
Perfformiad BSL 10 Rhagfyr, 1:30yp – gan Claire Anderson
(Cefnogaeth BSL yn y Cyntedd cyn y perfformiad gan Miriam Grimshaw.)
Perfformiad AD 17 Rhagfyr, 11:00yb – gan Erika James

Darganfodwch mwy am Clwb Byddar Y Theatr

Dyddiadau teithiau a lleoliadau:
Glan yr Afon, Casnewydd 8 Tach, 11.00yb (Saesneg) & 1.30yp (Cymraeg)
The Drill Hall, Cas-gwent 10 Tach, 11:00yb (Saesneg) & 1;30yp (Saesneg)
The Drill Hall, Cas-gwent 11 Tach, 10:30yb (Cymraeg)
Theatr Brycheiniog, Aberhonddu 14 Tach, 11.00yb (Saesneg) & 1.30yp (Cymraeg)
Canolfan Garth Olwg Centre, Pentre’r Eglwys 15 Tach, 11.00yb (Cymraeg) & 1.30yp (Cymraeg)
Grand Pavilion, Porthcawl 16 Tach, 11.00yb (Saesneg)
Y Neuadd Les, Ystradgynlais 18 Tach, 11.00yb (Cymraeg) & 1.30yp (Saesneg)
The Drill Hall, Cas-gwent 19 Tach, 2:00yp (Saesneg)
Canolfan Soar, Penygraig 21 Tach, 6.00yh (Saesneg), 22 Tach, 11.00yb (Saesneg) & 1.30yp (Cymraeg)
Canolfan y Celfyddydau, Y Barri 23 Tach, 11.00yb (Saesneg) & 1.30yp (Cymraeg)
Canolfan Celfyddydau Pontardawe 24 Tach, 11.00yb (Cymraeg) & 1.30yp (Cymraeg)