Adolygiad
4 – 5 Tach a 28 Tach – 31 Rhag 2022Prisiau
Safonol £9.50, Ysgolion £6.50
Gwybodaeth Bellach
- Gofod: Stiwdio
- Iaith: Cymraeg
- Wed 28 Dec - 1:30pm Relaxed Performance
Benoren, Benborffor, Benarian, unrhyw beth ond Benfelen!
Mae Elen wedi cael llond bol ar reolau Nain. Mae’r uwd yn ddiflas ac mae rhaid i bawb fod yn benfelen. Y cyfan mae Elen eisiau yw byw yn rhywle lle gall bawb fod yn nhw eu hunain.
Un diwrnod mae hi’n cychwyn ar antur i ymylon y pentref. Tybed pwy fydd hi’n cwrdd ar hyd y ffordd? Ydyn nhw’n gallu helpu Elen i newid rheolau Nain?
Bob Nadolig yn Stiwdio’r Sherman caiff plant 3 i 6 oed ar draws Caerdydd a De Cymru eu blas cyntaf o’r theatr. Addasiad newydd Gymraeg Elgan Rhys o stori Elen Benfelen yw’r sioe berffaith i gyflwyno plant i hud y theatr dros y Nadolig.
Bydd fersiwn Saesneg o’r sioe, Goldilocks, yn cael ei pherfformio ar wahân hefyd.
Mae pris popeth fel petai ar gynnydd ar hyn o bryd, ac rydyn ni eisiau sicrhau bod cost tocynnau o fewn cyrraedd cymaint o bobl â phosib:
- Gall 2 Oedolyn a 2 Blentyn weld Elen Benfelen am lai na £40 (yn amodol ar argaeledd).
- Gyda’n Rhagddangosiadau Talwch Beth Allwch Chi ar gyfer y sioe yma, gallwch dalu’r swm sy’n gweithio i chi.
- Rhannwch gost eich tocynnau ar gyfer y sioe yn ddau daliad hafal, gydag un taliad wrth archebu a’r llall wythnos cyn y perfformiad.
Ffoniwch 029 2064 6900 i ddysgu mwy (ar gael i archebion o £20 neu fwy).