GWYBODAETH ARCHEBU

Popeth yr ydych chi angen ei wybod ynglyn ag archebu tocynnau a gostyngiadau ar gyfer sioeau yn Theatr y Sherman.

Gallwch archebu tocynnau ar gyfer yr holl berfformiadau yn Theatr y Sherman trwy’r wefan hon.

Mae ein Swyddfa Docynnau ar agor ar gyfer archebion mewn person a dros y ffôn rhwng Llun - Gwe 9yb hyd 5.30yp ar ddyddiau lle nad oes sioe. Ar ddyddiau perfformiad, bydd y Swyddfa Docynnau ar agor hyd nes i’r sioe ddechra.

Cadw Tocynnau
Fe allwn ni gadw tocynnau i chi am hyd at dri diwrnod hyd nes i ni dderbyn eich taliad. Os nad ydyn ni’n derbyn eich taliad o fewn yr amser hwn, fe fyddwn yn canslo’ch tocynnau. Os ydych yn archebu llai na 3 diwrnod cyn y digwyddiad, fe fydd angen i chi dalu ar unwaith. Nid ydym yn gallu cadw tocynnau ar gyfer pob un o’n digwyddiadau.

Eich Tocynnau
Rydyn ni’n dosbarthu tocynnau i’w hargraffu gartref / e-docynnau ar y funud. I’r rheiny sy’n methu defnyddio tocynnau i’w hargraffu gartref neu e-docynnau gallwch gasglu tocynnau wedi’u hargraffu o’r Swyddfa Docynnau pan y byddwch chi’n cyrraedd.

Gostyngiadau
Myfyrwyr mewn addysg lawn amser, yr henoed, y rheiny sydd wedi eu cofrestru’n anabl, y rheiny sy’n hawlio budd-daliadau ac aelodau Equity yn gael gostyngiad ar bris tocynnau. Fel arfer, mae hyn yn golygu gostyngiad o £2 oddi ar y pris llawn.

Mae pobl ifanc dan 25 yn cael prynu tocynnau am hanner y pris ar gyfer mwyafrif perfformiadau Theatr y Sherman, ond nid pob un.

Caiff aelodau Sherman 5 docynnau gostyngedig o £7.50 ar gyfer perfformiad penodol yn Theatr y Sherman (£3.75 i rai Dan 25). Cliciwch yma ar gyfer tudalen Dewisiadau Sherman 5.

Archebu ar gyfer grŵp: 10% pan fyddwch chi’n archebu 8 tocyn neu fwy.

Archebu ar gyfer ysgol: Cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 029 2064 6900.

Os hoffech chi fwy o wybodaeth ynglŷn â’n gostyngiadau, mae croeso i chi ffonio’r Swyddfa Docynnau ar 029 2064 6900.

Mae gan Theatr y Sherman ymagwedd hyblyg at brisiau fel y gallwn gynnig tocynnau ar amrywiaeth eang o brisiau bob tro. Fe fydd union bris pob sedd yn y theatr yn amrywio ar gyfer pob perfformiad ond fe fydd o leiaf 40 tocyn ar gael ar y pris isaf bob tro ac rydyn ni’n cynnig amrywiaeth eang o ostyngiadau.

Am ragor o wybodaeth ynglyn â’r prisiau ar gyfer pob perfformiad, edrychwch ar dudalennau’r wefan neu siaradwch ag un o’n Cynorthwywyr Tocynnau a’r Swyddfa Docynnau – 029 2064 6900.

Gallwch ddarllen ein Telerau ac Amodau trwy ddilyn y ddolen ar waelod y dudalen hon.

Ardoll Tocynnau
Mae prisiau tocynnau ar gyfer perfformiadau yn Theatr y Sherman yn cynnwys ardoll tocynnau.

Rhannwch eich Angerdd
Gallwch rannu eich angerdd am yr hyn rydyn ni’n ei wneud a’i dalu ymlaen wrth archebu tocyn ar gyfer cynhyrchiad Crëwyd yn y Sherman. Dewiswch un o’r ddau opsiwn tocyn Rhannwch Eich Angerdd wrth archebu, mae pob un o’r opsiynau tocyn hyn yn cynnwys rhodd o £10 i Theatr y Sherman. Bydd eich rhodd heddiw yn sicrhau bod mwy o bobl yn elwa ar yr hyn rydyn ni’n ei wneud, a gallwch ddewis pa ran o’n gwaith hoffech chi ei gefnogi. Galluogwch fwy o bobl i brofi grym trawsnewidiol y theatr, drwy ddewis yr opsiwn Cynulleidfaoedd ac Ymgysylltu. Cefnogwch ein gwaith yn meithrin artistiaid sy’n byw ac yn dod o Gymru drwy ddewis Datblygu Artistiaid.