A oes gennych ddiddordeb mewn ymuno ag un o’n grwpiau Sherman Sherbets, Theatr Ieuenctid neu Sherman Players?
A allwch chi fod yn gymwys i wneud cais am gymorth ariannol ysgoloriaeth lawn neu rannol?
Mae ceisiadau bellach ar agor ar gyfer dechrau tymor ym mis Medi.
Mae bwrsarïau llawn a rhannol ar gael ar draws ein holl raglenni cyfranogol, a gallwch ymgeisio amdanynt wrth fynegi eich diddordeb mewn ymuno ag un o’n grwpiau.
Ar gyfer y flwyddyn academaidd 2026/27 rydym yn cynnig hyd at naw bwrsari fel a ganlyn:
- un i Sherman Sherbets
- pedwar ar draws aelodaeth Theatr Ieuenctid Sherman
- dau i Sherman Players
- dau i Sherman Makers, (o’r gwanwyn 2027 ymlaen)
Os hoffech chi wneud cais i’n Rhaglen Bwrsari gyfer Sherman Players cliciwch yma.
I wneud cais ar gyfer Sherbets neu Theatr Ieuenctid, e-bostiwch gwen.morris@shermantheatre.co.uk am fwy o wybodaeth.
Gwnaed Rhaglen Bwrsari Theatr y Sherman yn bosibl gan Michael Morgan, rhoddwyr a chefnogwyr ymgyrch Crowdfunding Michael, yn ogystal â chyfraniadau i’n cronfa Rhannwch Eich Angerdd.
Gallwch helpu sicrhau y gall rhagor o bobl brofi effaith bwerus ein rhaglenni cymuned wrth roddi i’n cronfa Rhannwch Eich Angerdd.