Mae sefydliad arweiniol Cymru ym maes ysgrifennu newydd wedi cyhoeddi rhaglen feiddgar o chwe chynhyrchiad newydd ar gyfer ei thymor o waith a Grëwyd gan y Sherman 2026. Ysgrifennwyd y chwe drama gan ddetholiad o ddramodwyr blaenllaw, sefydledig yn ogystal â lleisiau newydd cyffrous, gyda thri ohonynt wedi’u meithrin neu wedi’u cefnogi gan Adran Lenyddol y Sherman. Dyma’r chwe ysgrifennwr o Gymru neu sy’n byw yng Nghymru: Connor Allen, Ffion King, Hannah McPake, Gwawr Loader, Jennifer Lunn ac Azuka Oforka.
Mae’r tymor yn cynnig theatr bwerus, gyfoes am y byd o’n cwmpas, gan wahodd cynulleidfaoedd i weld pethau trwy lygaid pobl eraill.
Dyma’r chwe chynhyrchiad newydd sbon a Grëwyd gan y Sherman:
- Forgiveness of a Monster gan Connor Allen
8 – 23 Mai 2026
Ar ôl cymryd rhan yn rhaglen YMDAITH y Sherman (rhaglen ddatblygu ar gyfer ysgrifenwyr sefydledig), mae ail ddrama hunangofiannol Connor Allen yn gwthio ymlaen gyda thrac sain epig.
“Pwy yw’r dyn rydych chi’n ei weld pan edrychwch yn y drych?”
Gall fod yn anodd maddau. Mae hyd yn oed yn anoddach maddau i ni’n hunain. Os yw Connor am faddau iddo’i hun, bydd angen iddo edrych yn y drych. Bydd yn gweld ei hun, ei orffennol a’r cenedlaethau o gart achau sydd wedi siapio’i fywyd. Barddonol, gwefreiddiol a hiraethus mae Forgiveness of a Monster mewn modd hynod bersonol a hynod gyffredinol yn archwilio’r hyn sy’n ein gyrru ni a’r ffaeleddau sy’n ein diffinio.
Dywedodd Connor Allen “Mae’r cyfle i barhau fy stori ac ehangu’r byd rydw i wedi bod yn ei greu dros y blynyddoedd diwethaf yn hynod gyffrous. Mae’n rhodd go iawn cael meddiannu Stiwdio’r Sherman er mwyn rhannu stori sy’n hynod bersonol gyda’r gobaith y bydd yn berthnasol i eraill ac yn helpu eraill i deimlo’n llai unig yn y byd yma. Mae’r ffaith i mi dyfu i fyny ar Hammond Drive, stad o dai cyngor yng Nghasnewydd, yn gwneud y cyfle hwn hyd yn oed yn fwy arwyddocaol gan fy mod i’n gallu adrodd stori dyngedfennol ar y llwyfan ac mae hynny’n rhywbeth na fyddaf byth yn ei gymryd yn ganiataol. Rwy’n ddiolchgar iawn ac wrth fy modd yn ei rhannu.”
- Theatr y Sherman a Tilting at Windmills Productions yn cyflwyno
Balloon Girl gan Hannah McPake
Cyfarwyddwyd gan Hannah McPake
10 – 31 Hydref 2026
Ewch ar daith wyllt drwy amser a gofod dros 2,000 o flynyddoedd o Hanes Cymru, o’r Rhufeiniaid i’r Llychlynwyr i’r Fictoriaid gyda’r sioe anarchaidd newydd yma a ysbrydolwyd gan ddarn o hanes go iawn Caerdydd; y ‘Balloon Girl’ go iawn, Louisa Maud Evans. Wedi’i lwyfannu yn y Brif Theatr i bawb sy’n 8 oed ac yn hŷn, ysgrifennwyd a chyfarwyddwyd Balloon Girl gan Hannah McPake (ysgrifennwr a chyfarwyddwr Alice: Return to Wonderland ac ysgrifennwr Tales of the Brothers Grimm).
Mae’r biliwnydd technoleg Carol Gaudron ar fin lansio’r daith griw sifil gyntaf i’r blaned Mawrth. Ond a yw’r daith mor ddiogel ag y mae Carol yn awgrymu?
Mae Balloon Girl yn bosib diolch i Gyngor Celfyddydau Cymru.
Dywedodd Hannah McPake: “Mae Balloon Girl yn stori am hedfan fyny fry. Rydw i wrth fy modd yn cydweithio â’r Sherman i atgyfodi’r darn anhygoel yma o hanes Caerdydd, ochr yn ochr â thîm ardderchog o artistiaid o Gymru ac sy’n byw yng Nghymru. Mae hon yn sioe uchelgeisiol ar raddfa fawr na fyddai’n bosib heb gefnogaeth Theatr y Sherman a Chyngor Celfyddydau Cymru.”
- Pinocchio gan Jennifer Lunn
Cyfieithiad Cymraeg gan Hanna Jarman
23 Tach 2026 – 2 Ion 2027
Ymunwch â ni yn y Stiwdio i brofi hud un o’r straeon mwyaf poblogaidd erioed wedi’i hail-ddychmygu gan Jennifer Lunn. Mae’r fersiwn newydd hyfryd hon o Pinocchio gan Carlo Collodi yn gyflwyniad perffaith i ryfeddod theatr fyw i blant 3 – 6 oed.
Gall cynulleidfaoedd ledled Cymru brofi’r sioe hudolus newydd yma gan y bydd hi’n teithio de Cymru cyn perfformiadau’r Nadolig.
Dywedodd Jennifer Lunn: “Mae’r sioe Nadolig yn y Stiwdio wedi bod yn uchafbwynt yr ŵyl i mi ers tro byd. Gwylio’r cynyrchiadau godidog ond hefyd gweld y cynulleidfaoedd ifanc yn mwynhau’r straeon a’r cymeriadau gymaint; mae’n fraint o’r mwyaf cael bod yn rhan o’r traddodiad yma!”
- The Merry Adventures of Maid Marian gan Gwawr Loader
27 Tach 2026 – 2 Ion 2027
Mae dramodydd The Frog Prince / Biwti a Brogs, sioe Stiwdio’r Sherman eleni ar gyfer cynulleidfaoedd ifanc iawn, yn gwneud ei hymddangosiad cyntaf yn ein Prif Theatr yn 2026 gyda’r fersiwn newydd, egnïol yma wedi’i osod yn ne Cymru o’r stori enwog sy’n llawn cymeriadau chwedlonol.
Eofn, doniol a llawn calon, mae The Merry Adventures of Maid Marian yn dathlu dewrder, tegwch a phŵer pobl yn dod ynghyd. Wedi’i greu’n arbennig i bawb sy’n 7 oed ac yn hŷn, mae gan The Merry Adventures of Maid Marian bopeth y mae ein cynulleidfaoedd yn ei ddisgwyl o sioe Nadolig odidog ein Prif Theatr. Ac fe ddaw’r cyfan yn fyw diolch i gast eithriadol o actorion-cerddorion.
Dywedodd Gwawr Loader: “Rydw i wrth fy modd fy mod yn dychwelyd i’r Sherman ar gyfer eu cynhyrchiad prif lwyfan Nadolig 2026. Mae’r theatr hon wedi bod yn gartref creadigol i mi ers dros ddegawd — yn gyntaf fel actores a bellach fel ysgrifennwr hefyd — felly mae dod â stori sydd mor agos at fy nghanol yn ôl i’r theatr yma yn arbennig iawn. Ar ôl y wefr o greu sioe Nadolig y stiwdio eleni, rydw i wrth fy modd fy mod yn ysgrifennu The Merry Adventures of Maid Marian ar gyfer y brif lwyfan. Dyma sioe ddoniol, eofn a thwymgalon, sy’n dathlu dewrder, tegwch a phŵer pobl yn dod ynghyd. Ac yn llawn hwyl yr ŵyl, bydd ein band o ‘merry men’ yn fand go iawn, yn perfformio cerddoriaeth fyw sy’n llawn egni ac antur. Alla i ddim aros i gynulleidfaoedd Caerdydd gwrdd â’n Marian ni.”
- … that last summer gan Azuka Oforka
Cyfarwyddwyd gan Lee Lyford
Mewn cydweithrediad â Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru
Mai 2026
Mae cyn-aelod o raglen Unheard Voices Theatr y Sherman ac enillydd Gwobr Stage Debut, Azuka Oforka, yn dychwelyd yn dilyn llwyddiant beirniadol a masnachol ysgubol ei drama The Women of Llanrumney. Mae’r sioe newydd hon yn unfed cydweithrediad ar ddeg y Sherman â Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ar gyfer eu gŵyl ysgrifennu NEWYDD.
Caerdydd. Nawr.
Mae grŵp o ffrindiau’n cael eu galw i’r parc. Maent yn darganfod bod pob un ohonynt ar brawf. Pwy yn eu plith sy’n gyfrifol am farwolaeth Aaliyah?
Perfformir y ddrama newydd ddwys a thynn hon yn Theatr y Sherman.
- The Blunder Games gan Ffion King
Cyfarwyddwyd gan Tori Lyons
26-28 Chwef 2026
Wedi’i hysgrifennu gan gyn-aelod o raglen YMESTYN y Sherman (cyfres am ddim o sesiynau hyfforddi modiwlaidd byr i ddramodwyr), ac wedi’i datblygu gan aelodau o raglen Cyflwyniad i Ysgrifennu Dramâu y Sherman (rhaglen am ddim i egin ddramodwyr 15-18 oed). Mae The Blunder Games yn taflu goleuni ar ddiffyg cyllid ym mhentrefi cefn gwald Cymru a’r penderfyniadau anodd y mae’n rhaid i gynghorau eu gwneud – a’r cyfan wedi’i gyflwyno drwy gomedi mawr, eofn, anarchaidd. The Blunder Games yw cynhyrchiad Theatr Ieuenctid y Sherman yn ystod gwanwyn 2026.
Dywedodd Ffion King: “Mae ein plot yn llawn troeon a digwyddiadau annisgwyl, gan adlewyrchu natur anrhagweladwy ein cymunedau a’r heriau y maent yn eu hwynebu go iawn, felly rwy’n gobeithio y bydd cynulleidfaoedd yn profi’r sioe gyda’r un wefr a chyffro a gawson ni wrth ddatblygu’r sgript.”
Wrth gyhoeddi’r tymor, dywedodd Julia Barry, Prif Weithredwr Theatr y Sherman: “Fel bob amser rydym yn uchelgeisiol am yr hyn y gallwn ei gyflawni ar gyfer ein cynulleidfaoedd gyda’n cynyrchiadau eithriadol a grëir gan dîm angerddol ac arbenigol y Sherman, ochr yn ochr â theulu rhagorol o weithwyr llawrydd hynod dalentog. Mae’r tymor hwn unwaith eto’n cadarnhau’r uchelgais yma, gan gynnig gwledd i’r llygaid, safbwyntiau a rennir, dwyster emosiynol ac adloniant gwych i’n cynulleidfaoedd sy’n tyfu drwy’r amser, a hynny drwy ystod gyffrous o ddramâu gan grŵp pwerus o ysgrifenwyr. Dros y tymhorau diwethaf rydym wedi dangos y gall ysgrifennu newydd Cymreig gyffwrdd â chynulleidfa eang, ac, gyda’r rhaglen hon, rydym yn hyderus y bydd hynny’n parhau.”
Mae Theatr y Sherman yn edrych ymlaen at gyhoeddi tymor cyntaf ei Chyfarwyddwr Artistig newydd yn 2026.
Ariennir Adran Lenyddol Theatr y Sherman gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Bad Wolf.
—–
Ochr yn ochr â’r rhaglen a Grëwyd gan y Sherman, bydd Theatr y Sherman yn cydweithio â chwmnïau eraill ar ddwy sioe arall. Ar ddiwedd y gwanwyn bydd y Sherman yn cynnal cynhyrchiad newydd Theatr Clwyd o Under Milk Wood gan Dylan Thomas (30 Ebrill – 9 Mai). Y cynhyrchiad yma gan Theatr Clwyd yw’r sioe gyntaf i gael ei chreu fel rhan o gydweithrediad Craidd. Nod Craidd yw rhoi hygyrchedd a chynhwysiant wrth wraidd y theatr yng Nghymru. Mae’r consortiwm yn cynnwys Theatr Clwyd, Theatr y Sherman, Pontio, Theatr y Torch a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.
Yn gynharach yn y gwanwyn bydd cyd-gynhyrchiad Theatrau RhCT gyda Hannah Ladd o’i drama Full House yn cael ei berfformio am y tro cyntaf yn y Sherman (5 – 7 Chwefror) cyn perfformiadau yn Theatr Parc a’r Dâr. Comisiynwyd y ddrama lawn gyntaf hon gan yr ysgrifennwr o Dreorci, cyn-aelod Grŵp ysgrifenwyr Newydd Theatr y Sherman, gan Theatr y Sherman ac fe’i cefnogir gan Gyngor Celfyddydau Cymru.
—–
Mae tymor o waith a Grëwyd gan y Sherman yn cael ei ategu gan raglen estynedig o waith gan gwmnïau sy’n ymweld â’r Sherman, gan gynnwys perfformiadau gan dri o gwmnïau theatr mwyaf blaenllaw Cymru. Bydd Hijinx yn agor eu taith i nodi pen-blwydd eu sioe arobryn Meet Fred yn ddeg yn y Sherman (23 – 31 Ion). Bydd Theatr Iolo yn dychwelyd gyda’u sioe hynod boblogaidd ar gyfer plant 3 – 7 oed, Tidy / Taclus (11 – 14 Chwef). A bydd Theatr Clwyd yn dychwelyd am ail dro yn y gwanwyn gyda’u cynhyrchiad newydd o Twelfth Night (21 – 23 Mai).
Bydd Theatr y Sherman yn cynnal rhagddangosiadau o’r sioe gerdd newydd sbon Pride (31 Mawrth – 18 Ebrill) cyn premiére byd yn y National Theatre. Cyflwynir Pride gan P&P Productions gyda’r National Theatre mewn cydweithrediad â Pathé.