Y SHERMAN YN 50: NADOLIG 2023

Uncategorized @cy

Dros y 50 mlynedd diwethaf mae Theatr y Sherman wedi bod yn gyrchfan i deuluoedd ledled Caerdydd a De Cymru sy’n chwilio am adloniant arbennig dros gyfnod y Nadolig. Mae cenedlaethau wedi cael eu swyno gan gynyrchiadau ysblennydd o straeon clasurol yn y Prif Dŷ. Yn y Stiwdio, mae plant rhwng 3 a 6 oed wedi cael eu cyflwyno i hud y theatr drwy chwedlau hyfryd yn cael eu hadrodd mewn lleoliad anffurfiol.

Er mwyn dathlu’r Nadolig ym mlwyddyn ei hanner canmlwyddiant, bydd Theatr y Sherman yn swyno cynulleidfaoedd gydag addasiadau newydd o ddwy o’r straeon mwyaf poblogaidd erioed. Mewn cyd-gynhyrchiad gyda Theatr Iolo, bydd rhai dros 7 oed yn cael y cyfle i brofi antur glasurol JM Barrie Peter Pan (Tach 27, 2023 – Ion 6, 2024) mewn addasiad newydd gan Artist Cyswllt Theatr Iolo Catherine Dyson (Transporter Theatr Iolo, Thunder Road RedCape Theatre). Bydd Cyfarwyddwr Artistig Theatr Iolo, Lee Lyford yn cyfarwyddo (The Wind in the Willows Theatr y Sherman; A Christmas Carol Bristol Old Vic). Bydd y rhai ieuengaf sy’n mynychu’r theatr yn cael eu swyno gan addasiad newydd o Hansel and / a Gretel (Tachwedd 3-4, 2023 a Tachwedd 27, 2023 – Rhagfyr 30, 2023) gan Katie Elin-Salt (Love and (Loss) in the Time of Corona cyfres DEG Theatr y Sherman, Celebrated Virgins Theatr Clwyd). Bydd Hansel and / a Gretel yn cael ei berfformio ar wahân yn y Gymraeg a’r Saesneg ac yn cael ei gyfieithu i’r Gymraeg gan Branwen Davies.

Tocynnau nawr ar werth.

“Peter Pan” is presented by arrangement with Great Ormond Street Hospital Children’s Charity and Concord Theatricals Ltd. on behalf of Samuel French Ltd. www.concordtheatricals.co.uk