Telerau ac Amodau

Byddwch mor garedig â darllen y telerau ac amodau yn ofalus, gan ei bod yn bwysig eich bod yn deall y berthynas gytundebol ‘rydych yn ymgymryd â hi wrth brynu tocyn.

TELERAU AC AMODAU THEATR Y SHERMAN

TOCYNNAU:
Mae’n rhaid i chi gyflwyno tocyn dilys er mwyn cael mynediad i unrhyw ddigwyddiad neu cwrs.

Gallwch gadw/neilltuo tocynnau (heb dalu amdanynt yn syth) dros y ffôn neu yn bersonol yn Swyddfa Docynnau Theatr y Sherman. Byddwn yn cadw eich tocynnau am dridiau cyn y bydd angen i chi dalu amdanynt, os na fydd y digwyddiad yn cael ei gyflwyno mewn llai na thridiau. Os yn archebu fel grŵp gallwn gadw tocynnau am gyfnod estynedig, cysylltwch â’n Swyddfa Docynnau am fanylion llawn.

Rhaid talu’n llawn am bob tocyn a brynir ar-lein.

Os na fyddwn yn derbyn y tâl llawn am eich tocynnau o fewn yr amseroedd y manylir arnynt uchod, yna byddwn yn diddymu’r archeb.

Nid yw’n bosib i ni gynnig cadw/neilltuo tocynnau ar gyfer pob digwyddiad.

Pan fyddwch yn derbyn eich tocynnau, gwnewch yn siŵr eu bod ar gyfer y digwyddiad, y dyddiad a’r amser cywir, gan nad yw’n bosib bob tro i ni gywiro camgymeriadau ar ddiwrnod y digwyddiad.

Mae pob tocyn, mathau o bris, a gostyngiadau yn amodol ar argaeledd, gellir eu newid a/neu eu tynnu yn ôl heb roi rhybudd o flaen llaw, ac nid ydynt yn gymwys ar gyfer tocynnau sydd eisoes wedi eu prynu. Mae Theatr y Sherman’n cadw’r hawl i gyflwyno cynigion arbennig ac i newid prisiau heb roi unrhyw rybudd ymlaen llaw. Pris y tocyn yw’r pris a osodwyd pan fydd Theatr y Sherman yn derbyn eich archeb.

Os hawlir gostyngiad yna efallai bydd angen prawf adnabod a phrawf o’ch hawl am ostyngiad. Un gostyngiad yn unig sy’n berthnasol ar gyfer pob tocyn. Efallai bydd y gostyngiadau’n cael eu cyfyngu.

Mae gan bobl sydd ag anabledd ac sydd angen gofalwr i’w tywys, yr hawl i gael tocyn yn rhad ac am ddim ar gyfer eu gofalwr. Mae gan ddeiliaid cardiau Hynt hawl i docyn yn rhad ac am ddim ar gyfer cynorthwy-ydd personol neu ofalwr. Ewch i’r adran Hygyrchedd ein gwefan i ddarganfod mwy am Hynt neu ffoniwch aelod o dîm y Swyddfa Docynnau.

Gwerthir tocynnau ar gyfer defnydd preifat yn unig, ac nid oes gan y daliwr hawl i’w hail-werthu er budd masnachol. Os bydd Theatr y Sherman yn amau fod tocynnau’n cael eu hail-werthu gallwn eu hannilysu a gwrthod mynediad i’r perfformiad.

Ni fydd Theatr y Sherman yn gyfrifol am unrhyw docyn fydd ar goll, wedi ei ddwyn na’i ddistrywio. Dyblygir tocynnau yn ôl disgresiwn Theatr y Sherman.

Mae pob tocyn a werthir yn amodol ar hawl Theatr y Sherman i wneud newidiadau i’r rhaglen neu’r cast a hysbysebwyd yn sgil unrhyw achos anochel, heb roi gwybod i chi o flaen llaw.

Mae prisiau tocynnau ar gyfer perfformiadau yn Theatr y Sherman yn cynnwys ardoll tocynnau.

CYFNEWIDIADAU

• Gall tocynnau cael ei gyfnewid i berfformiad arall o’r un digwyddiad hyd at 24 awr cyn y dyddiad perfformiad gwreiddiol, yn amodol ar argaeledd.
• Bydd cyfnewidiadau ar gyfer archebion a wneir yn amodol i dâl gweinyddol un-tro o £1.50 y tocyn.

EICH GWYBODAETH BERSONOL
Pan fyddwch yn archebu tocynnau gan Theatr y Sherman bydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei chadw ar system gyfrifiadurol Swyddfa Docynnau Theatr y Sherman. Wrth archebu tocynnau ‘rydych yn caniatáu i’ch gwybodaeth bersonol gael ei chadw yn unol â’r Deddfau Diogelu Data. Gofynnir i chwi os gellir defnyddio’r wybodaeth yma:

  • i roi gwybod i chwi am y cynyrchiadau neu unrhyw ddatblygiadau fydd yn digwydd yn Theatr y Sherman
  • gan sefydliadau celfyddydol eraill neu gynhyrchwyr sioeau am resymau cyffelyb

Gellir rhannu gwybodaeth archebu cwsmeriaid (ac eithrio manylion cardiau credyd) ag asiantaethau allanol (e.e. Cyngor Celfyddydau Cymru) ar gyfer gwaith dadansoddi. Bydd Theatr y Sherman yn cymryd pob cam rhesymol i ddiogelu data oddi fewn i’r broses hon. Darllenwch ein Polisi Preifatrwydd i ddarganfod sut rydym yn gofalu am eich data.

DANFON TOCYNNAU:
Bydd tocynnau argraffu gartref / e-docynnau / cyfeirnodau unigryw yn disodli tocynnau wedi’u hargraffu yn Theatr y Sherman
Ni fyddwn yn anfon nac yn derbyn tocynnau a argraffwyd yn flaenorol yn y theatr. Cyhoeddir tocynnau i’w argraffu gartref neu e-docynnau yn lle tocynnau printiedig. I’r rheiny sy’n methu argraffu tocynnau gartref neu ddefnyddio e-docynnau, bydd modd i chi gasglu tocyn wedi’i argraffu o’r Swyddfa Docynnau pan fyddwch yn cyrraedd.

CYFNEWIDIADAU AC AD-DALIADAU:
Nid ellir cael ad-daliadau ar docynnau oni bai fod y perfformiad yn cael ei ganslo neu ei ail-drefnu neu lle mae newid deunydd i raglen y digwyddiad. Pan fydd perfformiad yn cael ei ganslo neu ei ail-drefnu gan Theatr y Sherman neu’r hyrwyddwr, pan fydd digwyddiad yn cael ei ganslo neu ei ail-drefnu yn sgil amgylchiadau sydd y tu hwnt i reolaeth Theatr y Sherman, neu pan fo newid deunydd i raglen y digwyddiad, mae gan prynwr y tocyn hawl i gael ad-daliad gan Theatr y Sherman, sef union gost y pryniant.

Mae newid deunydd yn newid sydd, ym marn resymol Theatr y Sherman, yn golygu bydd y digwyddiad yn sylweddol wahanol i’r hyn y gallai prynwr y tocyn fod, o fewn rheswm, wedi ei ddisgwyl. Nid yw defnyddio dirprwy-actorion yn newid deunydd.

Gellir cyfnewid tocynnau ar gyfer perfformiad arall o’r un digwyddiad hyd at 24 awr cyn dyddiad gwreiddiol y perfformiad, yn amodol ar argaeledd.

Derbynnir tocynnau ar gyfer eu hail-werthu, ond bydd Theatr y Sherman yn ceisio ail-werthu’r tocynnau pan fydd perfformiad wedi ei werthu allan yn unig, ac nid yw’n bosib rhoi gwarant y bydd tocynnau’n cael eu hail-werthu.

Gwneir ad-daliadau i’r person sydd wedi prynu’r tocyn yn unig, ac, ble fo’n bosib, gan ddefnyddio’r un dull ag a ddefnyddiwyd i brynu’r tocynnau. Pan fu i’r cwsmer ddefnyddio arian parod i brynu’r tocyn yn wreiddiol, yna mae gofyn i’r cwsmer gasglu ac arwyddo am yr arian fydd yn cael ei ad-dalu o Swyddfa Docynnau Theatr y Sherman.

Os yw tocyn sydd yn cynnwys rhodd Rhannwch Eich Angerdd yn cael ei ad-dalu, bydd y rhodd yn cael ei chadw gan Theatr y Sherman a dim ond wynebwerth y tocyn bydd yn cael ei ad-dalu.

Nid yw ac ni fydd y Telerau ac Amodau hyn yn effeithio ar eich hawliau statudol fel defnyddiwr.

GWASANAETH CWSMERIAID:
Gellir gosod cyfyngiad oed ar rai digwyddiadau, a chyfrifoldeb daliwr y tocyn yw gwneud yn siŵr o hynny cyn prynu’r tocyn. Rhaid i blant dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn pan fyddant y tu mewn i’r awditoriwm.

Efallai gofynnir i’r sawl sy’n cyrraedd yn hwyr aros tan yr egwyl, neu am doriad addas yn y perfformiad, cyn mynd i’w seddi.

Mae tîm rheoli Theatr y Sherman yn cadw’r hawl i ofyn i ddalwyr tocynnau adael y lleoliad ar unrhyw adeg am unrhyw reswm derbyniol, gan gynnwys am resymau iechyd a diogelwch, rhesymau trwyddedu, neu ble fyddwn ni o’r farn fod cyfforddusrwydd, mwynhad a diogelwch y defnyddwyr eraill yn cael ei effeithio, a gellir cymryd y camau priodol i orfodi’r hawl yma.

Ni chaniateir defnyddio offer ffotograffiaeth na recordio, gan gynnwys camerâu ffonau symudol, yn yr awditoriwm heb ganiatâd.

Mae Theatr y Sherman yn cadw’r hawl iddynt hwy eu hunain neu unrhyw drydydd parti i ymgymryd ag unrhyw waith ffilmio a recordio sain cyffredinol yn neu o amgylch yr adeilad. Wrth brynu tocyn mae’r daliwr yn cytuno i gael tynnu ei lun neu ei recordio, ac i ffilm neu recordiad o’r fath gael ei ddefnyddio at bwrpas masnachol, ac nad oes ganddo unrhyw hawl i ofyn am dâl. Mae’n rhaid i unrhyw ddeiliad tocyn sy’n gwrthwynebu cael tynnu ei lun neu ei recordio rhoi gwybod i’r Rheolwr sydd ar Ddyletswydd cyn bod y perfformiad yn dechrau.

Byddwch mor garedig â sicrhau fod pob ffôn symudol, peiriant galw a larymau digidol yn cael eu diffodd cyn i’r perfformiad ddechrau.

Ni chaniateir yfed alcohol ond yn y bariau cyhoeddus a’r mannau awdurdodedig eraill yn unig. Ni chaniateir ysmygu mewn unrhyw ran o’r adeilad.

Ni chaniateir i unrhyw un ddod a bwyd na diod i’r lleoliad heb ganiatâd tîm rheoli Theatr y Sherman.

Mae’n rhaid i ddeiliaid tocynnau gydymffurfio â’r holl statudau perthnasol, pob cyhoeddiad parthed diogelwch a rheolau’r lleoliad wrth fynychu’r digwyddiad.

Os oes gan ddeiliaid tocynnau unrhyw ofynion neu bryderon neilltuol am effeithiau arbennig y gellir cael eu cynnwys yn y digwyddiad, dylid rhoi gwybod o flaen llaw wrth archebu tocynnau. Gall effeithiau arbennig gynnwys, ond nid ydynt wedi eu cyfyngu i, effeithiau sain, clyweled, effeithiau pyrotechnegol neu effeithiau goleuo.

Dylid gwneud cwynion sy’n berthnasol i unrhyw agwedd o’r perfformiad i’r Rheolwr ar Ddyletswydd yn y lleoliad cyn, yn ystod neu’n syth wedi’r perfformiad.