Bydd Theatr y Sherman yn cynnal digwyddiad arbennig nos Wener 16 Ionawr 2026 i ddathlu gwaith eu cynllun Cyflwyniad i Ysgrifennu Dramâu, sydd wedi cefnogi mwy na 50 o awduron 15-18 oed ers 2022.
Caiff pob cyfranogwr o bedair blynedd y cynllun eu gwahodd i fwynhau perfformiadau byw o waith rhai o’r dramodwyr ifanc, gosodiad sain yn arddangos dramâu sain o brosiectau Listen Up! Acts I, II a III y cwmni a dangosiad cyntaf pum ffilm fer a ddatblygwyd o sgriptiau‘r awduron, a gyflwynir ochr yn ochr â’r perfformiadau byw.
Bydd y dramâu sain a’r ffilmiau byrion ar gael i’r cyhoedd ar wefan Theatr y Sherman ar ôl y digwyddiad.
Mae cynllun Cyflwyniad i Ysgrifennu Dramâu Theatr y Sherman yn cynnig cyfle rhad ac am ddim i bobl ifanc 15-18 oed archwilio a datblygu eu sgiliau ysgrifennu creadigol. Dechreuodd yn 2018, gyda chefnogaeth Sefydliad Esmée Fairbairn. Parhaodd y cam cyntaf tan 2022, ac ar yr adeg honno daeth Sefydliad Moondance yn bartner ariannu am dair blynedd arall o weithgarwch.
Drwy’r rhaglen, mae’r cwmni wedi gwneud buddsoddiad enfawr yn natblygiad awduron ifanc yng Nghymru, gan eu cyfarparu â sgiliau, cysylltiadau a’r gred bod ysgrifennu dramâu yn yrfa y gallant ei dilyn. Ers ei sefydlu, mae Cyflwyniad i Ysgrifennu Dramâu wedi rhoi mynediad digynsail i awduron ifanc at awduron a phobl greadigol o Gymru, y cyfle i gael eu gwaith wedi’i berfformio gan actorion proffesiynol a nifer o gyfleoedd i brofi, yn uniongyrchol, bŵer ysgrifennu newydd drwy gynyrchiadau Stiwdio a Phrif Dŷ y Sherman.
Wrth gyhoeddi’r digwyddiad dathlu, dywedodd Francesca Pickard, Pennaeth Ymgysylltu Creadigol Theatr y Sherman: “Rydym mor ddiolchgar i bawb sydd wedi helpu i lunio a chyflwyno Cyflwyniad i Ysgrifennu Drama, yn enwedig ein tiwtoriaid rheolaidd sydd wedi arwain y rhaglen gyda chymaint o ymrwymiad a charedigrwydd. Rydym hefyd yn estyn ein diolch o’r galon i Sefydliad Moondance y mae eu haelioni wedi ein galluogi i ddychmygu rhaglen wirioneddol uchelgeisiol ac unigryw. Yn olaf, mae’r digwyddiad hwn i ddiolch i’r holl awduron ifanc gwych sydd wedi ymuno â ni, boed ar gyfer un ganolfan lloeren, neu dair blynedd o weithdai wythnosol.”
Dywedodd Julia Barry, Prif Weithredwr y cwmni: “Mae Theatr y Sherman wedi ymrwymo i feithrin talent Cymreig a thalent sy’n byw yng Nghymru a sicrhau y gall unrhyw un ddilyn gyrfa yn y celfyddydau waeth beth fo’u cefndir. Mae Cyflwyniad i Ysgrifennu Dramâu wedi ein galluogi i gyflawni’r ddau ymrwymiad hynny, gan fod yn rhad ac am ddim ac yn agored i bawb ers ei sefydlu yn 2018.
“Mae’r digwyddiad hwn yn rhoi cyfle gwych i ni gydnabod a dathlu llwyddiant y cynllun wrth arddangos rhai o ffrwyth llafur yr holl awduron ifanc hyn.”