Heddiw mae Theatr y Sherman wedi cadarnhau cast eu cynhyrchiad o Odyssey ’84 gan Tim Price; ail-adroddiad o Streic y Glowyr 1984, wedi’i ysbrydoli gan Odyssey Homer.
Pedwardeg mlynedd ers Streic y Glowyr, mae’r ddrama newydd hon yn adrodd hanes un o gyfnodau fwyaf ffrwydrol hanes Cymru, gan daflu golau newydd ar y gefnogaeth ryngwladol a gafodd y glowyr yn ogystal â’r rôl a chwaraeodd menywod yn y gwrthdaro â llywodraeth Prydain.
Mae yna wrthdaro personol a gwleidyddol yn Odyssey ’84, sy’n dilyn hanes pâr priod a gafodd eu dal yn y gwrthdaro, ac a chwaraeir gan Rhodri Meilir (How My Light Is Spent, Theatr y Sherman/Royal Exchange Theatre/Theatre By The Lake; Nye, National Theatre a Chanolfan Mileniwm Cymru) a Sara Gregory (Romeo and Juliet, Theatr y Sherman; Home, I’m Darling, Theatr Clwyd/National Theatre).
Yn ymuno â Rhodri a Sara ar y llwyfan bydd Matthew Bulgo (The Cherry Orchard, Theatr y Sherman; Nye, National Theatre a Chanolfan Mileniwm Cymru), François Pandolfo (The Taming of the Shrew, Theatr y Sherman/Theatr Tron; An Audience with Milly-Liu, difficult|stage); Sion Pritchard (A Midsummer Night’s Dream, Sherman Theatre; Mammoth, BBC), Dean Rahman (Love Letters to Cardiff, Sherman Theatre; The Kite Runner, taith DU ac Iwerddon) a Lisa Zahra (Grenfell: in the words of survivors, National Theatre; The Boy With Two Hearts, National Theatre a Chanolfan Mileniwm Cymru).
Wrth i’r streic ddechrau, mae’r glöwr John O’Donnell yn cael ei wthio i frwydr i oroesi, gan fynd ag ef ymhell o dde Cymru. Yn y cyfamser, gartref, mae ei wraig Penny yn mynd ar ei thaith bersonol epig ei hun tra’n ymdrechu i gefnogi ei chymuned. Pan gânt eu haduno o’r diwedd, maent yn gweld bod eu teithiau gwahanol iawn wedi trawsnewid eu bywydau am byth.
Mae’r domestig yn cwrdd â’r epig a’r lleol â’r byd-eang yn y gwaith uchelgeisiol hwn, sy’n cael ei adrodd trwy lens Odyssey Homer a’i ysgrifennu gan un o awduron mwyaf llwyddiannus Cymru, awdur Nye (National Theatre a Chanolfan Mileniwm Cymru) yn fwyaf diweddar, a gafodd ganmoliaeth fawr.
Dywedodd yr awdur Tim Price: “Rwyf wedi bod eisiau ysgrifennu am Streic y Glowyr ers bron i 20 mlynedd, ond doeddwn i ddim yn teimlo’n barod nac wedi cael y stori gywir. Yna darllenais am yr holl godi arian rhyngwladol a ddigwyddodd a sylweddolais fod y streic yn bwysig nid yn unig i ni yn ne Cymru ond i bobl ledled y byd.
“Fe wnaeth ymdrechion glowyr i gasglu’r arian hwn ac adeiladu undod wneud i mi feddwl am fy hoff stori epig Roegaidd; The Odyssey. Ac yna sylweddolais fy mod yn gwybod o’r diwedd sut i adrodd y frwydr epig hon rhwng Duwiau a meidrolion yn yr anghydfod diwydiannol hiraf a mwyaf creulon yn ein hanes modern.”
Caiff Odyssey ‘84 ei gyfarwyddo gan Gyfarwyddwr Artistig Theatr y Sherman, Joe Murphy a’i ddylunio gan Carl Davies (Housemates, Theatr y Sherman).