Adolygiad
11 - 26 Hyd 2024Prisiau
£16 - £29. O Dan 25 Hanner Pris. Gostyngiadau £2 i ffwrdd
Gwybodaeth Bellach
- Iaith: Saesneg
- Gofod: Y Brif Theatr
Mae’r sioe hon yn cynnwys darluniau o drais, iaith gref a rhai golygfeydd y gall aelodau’r gynulleidfa eu hysgwyd. Am fwy o wybodaeth cliciwch yma.
- Thu 17 Oct - 7:30pm BSL interpreted
- Thu 24 Oct - 7:30pm BSL interpreted
- Thu 17 Oct - 7:30pm Captioned
- Thu 24 Oct - 7:30pm Captioned
- Sat 26 Oct - 2pm Captioned
- Mon 21 Oct - 6:30pm Relaxed Performance
- Tue 22 Oct - 7:30pm Audio Described
Mae’r personol a’r gwleidyddol yn gwrthdaro yn narlun hyfryd a chalonogol Tim Price o Streic y Glowyr ym 1984, wedi’i ysbrydoli gan Homer a’i ddarn Odyssey.
“Felly. Dyn o droeon mawr. Adrodda i ni dy stori. O’r dechrau.”
Wrth i’r streic gychwyn mae’r glöwr John O’Donnell yn cael ei wthio at frwydr o oroesi, sy’n ei dywys ymhell o De Cymru. Yn y cyfamser, nôl adref, mae ei wraig Penny yn mynd ar ei thaith epig bersonol ei hun wrth iddi ymdrechu i gefnogi ei chymuned. Pan gânt eu haduno o’r diwedd, fe ddown i ddeall bod eu siwrneiau gwbl wahanol wedi trawsnewid eu bywydau am byth.
Wedi’i gosod yn erbyn cefndir un o gyfnodau mwyaf cythryblus ein hanes diweddar, mae Odyssey ’84 yn addo profiad gwefreiddiol yn y theatr. Mae’r ddrama newydd fawreddog hon yn sôn am ein delfrydau, a’r anturiaethau y cawn yn eu sgìl.
Bydd y perfformiadau o 11 – 14 Hydref yn Talwch Beth Fynnwch. Byddant yn mynd ar werth yng nghanol 2024.
Dehongliad BSL gan Tony Evans (17 Hyd 7.30yh and 24 Hyd 7.30yh).