Clwb Darllen

Darllenwch amrywiaeth o ddramâu a gwaith gan ysgrifenwyr cyffrous ac amrywiol gyda'n sesiynau clwb darllen misol.

Prisiau

Am ddim

Rhannwch

Byddwn yn cyhoeddi drama wahanol ar ddechrau pôb mis ac yna byddwn yn cyfarfod arlein i drafod, rhannu barn ac ymateb.

Bydd y sesiynau’n cael eu harwain gan ein tîm llenyddol. I gofrestru ar gyfer y Clwb Darllen neu am fwy o wybodaeth cysylltwch â literary@shermantheatre.co.uk. Mae’n agored i unrhyw sgwennwyr ond bydd nifer cyfyngedig o lefydd ym mhob sesiwn.

Bydd y sesiwn nesaf ar 10 Mai lle fyddwn yn trafod Maes Terfyn gan Gwyneth Glyn.

Mae’r dramâu mwyaf diweddar yn cynnwys:

  • Pridd gan Aled Jones Williams.
  • Hela gan Mari Izzard (Oberon Modern Plays 2019)

Drama ddwyieithog dywyll ac anghyfforddus am gyfrinachau teuluol a cheisio canfod cyfiawnhad.

  • Gobeithion Gorffwyll addasiad gan Sharon Morgan (Gwasg Caerreg Gwalch 2002)

Addasiad o stori fer gan Simone de Beauvoir.

  • Llwyth gan Dafydd James (Sherman Cymru 2010)

Nos Sadwrn gêm ryngwladol ac mae’r brifddinas yn wyllt. Mae Cymru wedi colli ond mae pedwar ffrind hoyw’n benderfynol o gael noson i’w chofio… beth bynnag fo’r gost. Dros Gymru? Dros gyd-ddyn? Neu bawb drosto’i hun?