Caffi Trwsio Cymru, Cathays

Angen rhywbeth wedi’i drwsio neu’n dymuno trwsio pethau ar gyfer pobl eraill. Cymrwch ran.

Mae Theatr y Sherman yn falch o groesawu Caffi Trwsio Cymru – Cathays ar ddydd Sadwrn cyntaf y mis.

Casgliad o wirfoddolwyr yw Repair Café Wales sy’n dod at ei gilydd ac yn trwsio eitemau y mae’r cyhoedd yn eu cyflwyno iddynt, am ddim. Eu huchelgais yw i leihau gwastraff claddfeydd sbwriel, meithrin ymdeimlad o gymuned, ac arbed ychydig o arian i bobl yn y broses. Felly, os oes gennych chi dostiwr, neu feic, neu ddillad neu unrhyw eitem o’r tŷ sydd wedi torri a ddweud y gwir; peidiwch â phrynu un newydd, dewch ag ef i’r Caffi Trwsio a caiff ei drwsio am ddim!

tgyweiriadau arferol yn cynnwys; cynnal a chadw beic sylfaenol, atgyweirio teclynau trydanol, cymorth cyfrifiadurol, gwnïo, atgyweirio addurniadau, a gwaith coed; er fe wnawn nhw fwrw golwg dros y mwyafrif o bethau (heblaw am feicrodonau am eu bod nhw’n rhy beryglus).

Mae Cyfarwyddwr Gweithredol Theatr y Sherman Julia Barry wedi dweud ‘Rydyn ni’n hynod o falch i fedru croesawu Caffi Trwsio Cymru bob mis o fis Medi. Mae’r Sherman yn adnodd i’n cymuned leol a trwy gynnal y sesiynau hyn rydyn ni’n falch i fedru cynnig mynediad i aelodau’r gymuned at y cynllun gwych hwn. Gobeithiwn y bydd cymaint o bobl ag sy’n bosibl yn dod i gymryd mantais o’r gwasanaeth yma.’

Caiff Caffi Trwsio Cathays ei gynnal yng nghyntedd Theatr y Sherman, Heol Senghennydd, CF24 4YE ar ddydd Sadwrn cyntaf bob mis. Bydd y Caffi Trwsio yn weithredol rhwng 10yb – 1yp, gyda’r un atgyweiriad mawr pellach yn cael ei ystyried wedi 12.30yp fel nad yw’r sesiwn yn rhedeg yn hwyr.

Unrhyw gwestiynnau? Anfonwch neges at Caffi Trwsio Cymru dros Facebook ac fe wnant eu gorau glas i sicrhau fod atgyweiriwr ar gael i drwsio eich eitem.

Mae yna groeso i fwy o atgyweirwyr bob tro – dewch draw hyd yn oed os yr ydych chi ond eisiau gweld beth sy’n mynd ymlaen, a dywedwch wrth eich ffrindiau. Welwn ni chi yno!