Bird

Playtexts

Bird

£9.99

Item added to basket

Add to basket failed. Please reload the page and try again

Pob pris yn cynnwys TAW
Gan Katherine Chandler. 'You know what Ava means? Bird. That's what you are. You're a little bird.' Mae Ava a Tash ar ymyl clogwyn, yn edrych allan ar yr adar - ac ar eu dyfodol. Maent ar drothwy eu bywyd fel oedolion ac ar fin gadael y cartref gofal y maent wedi'i rannu. Mae'r ddwy ffrind yn cael cyfle i brofi y rhyddid a’r bywyd sydd yn eu disgwyl yn y byd mawr. Rhaid i Ava wynebu'r fam a adawodd ar ei hôl. Bydd rhaid i Tash chwilio am gartref newydd. A bydd y ddwy ferch yn parhau i fyw'n beryglus gyda'r dynion sy'n eu hamgylchynu. Mae Bird yn stori amrwd, bregus a beiddgar, am dyfu i fyny ar y tu allan i deulu ond ar y tu mewn i gyfeillgarwch tanbaid. Enillodd wobr y beirniaid yng Ngwobr Ysgrifennu Drama Bruntwood 2013, a chafodd ei pherfformio am y tro cyntaf yn Theatr y Sherman yn 2016 cyn trosglwyddo i’r Royal Exchange Theatre, Manceinion.