Polisi Cwcis

Caiff y polisi yma (“Polisi Cwcis”) ei gyhoeddi gan Theatr y Sherman (“ni” neu “ein”), ac mae’n berthnasol i’r defnydd a wnawn o “gwcis” ar ein gwefan, www.shermantheatre.co.uk (“Gwefan”).

Drwy barhau i ddefnyddio ein Gwefan, rydych yn cytuno i ni osod cwcis ar eich cyfrifiadur yn unol â thelerau’r Polisi Cwcis yma. Dylech ddarllen y polisi cwcis yma’n ofalus i gael rhagor o fanylion am y wybodaeth a gasglwn pan fyddwch yn defnyddio’r Wefan.

Cwcis a’u manteision i chi
Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis, fel pob gwefan fwy neu lai, i ddarparu’r profiad gorau posib i chi. Ffeiliau testun bach yw cwcis sy’n cael eu gosod ar eich cyfrifiadur neu’ch ffôn symudol pan fyddwch chi’n pori.

Gallwch ddarllen ein Polisi Preifatrwydd yma.

Mae Theatr y Sherman yn defnyddio cwcis at dri phrif ddiben:
• Sicrhau bod y wefan yn gweithio, yn enwedig ar gyfer archebion ar-lein
• Monitro perfformiad y wefan a’n helpu i wneud gwelliannau yn y dyfodol
• Teilwra ein marchnata a defnyddio teclynnau fel Facebook a Google AdWords i gyfathrebu’n fwy effeithiol drwy hysbysebu ar y we.

Mae cwcis yn ein helpu gyda’r canlynol:
• Gwneud i’n gwefan weithio fel y byddech yn ei ddisgwyl
• Arbed amser i chi rhag gorfod mewngofnodi bob tro byddwch yn ymweld â’r wefan
• Cofio eich gosodiadau yn ystod a rhwng ymweliadau
• Gwella cyflymder/diogelwch y wefan
• Caniatáu i chi rannu tudalennau gyda rhwydweithiau cymdeithasol fel Facebook
• Gwella ein gwefan yn barhaus i chi
• Gwneud ein marchnata yn fwy effeithlon (sy’n ein helpu yn y pen draw i allu cynnig y gwasanaeth a wnawn am y pris a wnawn)

Dydyn ni ddim yn defnyddio cwcis i wneud y canlynol:
• Casglu gwybodaeth sensitif
• Rhannu data y mae modd eich adnabod drwyddo gyda thrydydd partïon
• Talu comisiwn am werthu

Gallwch ddysgu rhagor am yr holl gwcis a ddefnyddiwn isod:

Google Analytics
Mae hwn yn monitro sut mae pobl yn defnyddio ein gwefan – er enghraifft y porwr maen nhw’n ei ddefnyddio a’r tudalennau maen nhw’n ymweld â nhw. Caiff ei ddefnyddio i asesu perfformiad ein gwefan ac i’n helpu i gynllunio gwelliannau.

Google Ads
Efallai y byddwch yn sylwi weithiau ar ôl ymweld â’n gwefan y byddwch yn gweld mwy o hysbysebion ganddon ni. Y rheswm dros hyn yw ein bod yn talu am yr hysbysebion, ac mae’r cwci yma’n galluogi’r dechnoleg yma. Rydyn ni’n defnyddio’r hysbysebion yma i’ch annog i ddod yn ôl i’n gwefan. Peidiwch â phoeni – allwn ni ddim cysylltu â chi’n rhagweithiol gan fod y broses gyfan yn gwbl ddienw.

Mae’r rhain yn ein helpu i ddeall pa mor dda mae ein hysbysebion ar-lein yn annog porwyr i weld rhagor o wybodaeth am ddigwyddiadau penodol ar https://www.shermantheatre.co.uk/, a phan fydd hysbyseb yn cael ei harddangos ar wefan trydydd parti, mae cwci Google Ads yn cael ei osod ar eu peiriant, ar yr amod bod hyn wedi’i alluogi gan osodiadau eu porwr. Os yw’r porwr hwnnw wedyn yn ymweld â https://www.shermantheatre.co.uk/, gallwn weld bod yr hysbyseb wedi bod yn effeithiol. Mae rhagor o wybodaeth am bolisi preifatrwydd Google a sut i optio allan ar gael yma.

Facebook / Instagram
Mae hwn yn cyfathrebu â gweithgaredd Facebook / Instagram ar ein gwefan. Mewn ffordd debyg i Google Display Network / Google Adwords, mae’n caniatáu i ni leihau ein costau (a chadw ein prisiau’n isel) drwy ddefnyddio hysbysebion digidol i’ch annog i ymweld â ni. Peidiwch â phoeni – allwn ni ddim cysylltu â chi’n rhagweithiol gan fod y broses gyfan yn gwbl ddienw.

Sesiwn
Cwci dros dro yw’r cwci yma (mae’n cael ei ddileu pan fyddwch chi’n cau’r porwr). Mae’n gweithredu fel cof bach iawn i gofio beth rydych chi wedi’i wneud ar dudalennau blaenorol.

Rhoi caniatâd i ni ddefnyddio cwcis
Os yw’r gosodiadau ar y feddalwedd rydych chi’n ei ddefnyddio i weld y wefan yma (eich porwr) wedi’u haddasu i dderbyn cwcis, rydyn ni’n cymryd hyn, a’ch defnydd parhaus o’n gwefan, i olygu eich bod chi’n hapus â hyn. Os hoffech dynnu cwcis neu beidio â defnyddio cwcis o’n gwefan gallwch ddysgu sut i wneud hyn isod; fodd bynnag, bydd gwneud hynny yn debygol o olygu na fydd ein gwefan yn gweithio fel y byddech yn ei ddisgwyl.

• Ein cwcis ein hunain – Rydyn ni’n defnyddio cwcis i wneud i’n gwefan weithio drwy gofio eich gosodiadau chwilio.
• Teclynnau trydydd parti – Mae ein gwefan, fel pob gwefan fwy neu lai, yn cynnwys teclynnau a gaiff eu darparu gan drydydd partïon. Enghraifft gyffredin yw fideo YouTube sydd wedi’i fewnosod ar y wefan. Bydd analluogi’r cwcis yma’n debygol o amharu ar y gwasanaeth a gynigir gan y trydydd partïon yma.
• Cwcis gwefannau cymdeithasol – Er mwyn i chi allu “hoffi” neu rannu ein cynnwys yn hawdd ar Facebook a Twitter, rydyn ni wedi cynnwys botymau rhannu ar ein gwefan. Bydd goblygiadau preifatrwydd hyn yn amrywio ar sail y rhwydwaith cymdeithasol a bydd yn dibynnu ar y gosodiadau preifatrwydd rydych chi wedi’u dewis ar y rhwydweithiau yma.

Cwcis ystadegau ymwelwyr anhysbys
Rydyn ni’n defnyddio cwcis i gasglu ystadegau ymwelwyr fel faint o bobl sydd wedi ymweld â’n gwefan, pa fath o dechnoleg maen nhw’n ei defnyddio (e.e. Mac neu Windows, sy’n helpu i nodi pan nad yw ein gwefan yn gweithio fel y dylai ar gyfer technolegau penodol), faint o amser maen nhw’n ei dreulio ar y wefan, pa dudalen maen nhw’n edrych arni ac ati. Mae hyn yn ein helpu i wella ein gwefan yn barhaus. Mae’r rhaglenni “dadansoddeg” yma hefyd yn dweud wrthon ni, yn ddienw, sut cyrhaeddodd pobl y wefan (e.e. o beiriant chwilio) ac a ydyn nhw wedi bod yma o’r blaen; mae hyn yn ein helpu i roi mwy o arian i ddatblygu ein gwasanaethau ar eich cyfer chi yn lle gwario ar farchnata.

Rydyn ni’n defnyddio cwcis hysbysebu
Mae cwcis yn cael eu defnyddio’n eang mewn hysbysebu ar-lein. Dydyn ni, yr hysbysebwyr, na’n partneriaid hysbysebu ddim yn gallu casglu gwybodaeth bersonol adnabyddadwy o’r cwcis yma. Gallwch ddysgu rhagor am hysbysebu ar-lein yn http://www.youronlinechoices.com. Gallwch optio allan o bron pob cwci hysbysebu yn http://www.youronlinechoices.com/uk/your-ad-choices er y byddai’n well ganddon ni pe na fyddech yn gwneud hynny, gan fod hysbysebu yn helpu i gadw llawer o’r rhyngrwyd am ddim. Mae hefyd yn werth nodi na fydd optio allan o gwcis hysbysebu yn golygu na fyddwch yn gweld hysbysebion, dim ond na fyddan nhw’n cael eu teilwra ar eich cyfer chi o hyn ymlaen.

Rydyn ni’n defnyddio:
• Google Ads – polisi preifatrwydd sy’n eiddo i Google
• Cwcis ailfarchnata

Efallai y byddwch yn sylwi weithiau ar ôl ymweld â gwefan y byddwch yn gweld mwy o hysbysebion gan y wefan rydych chi wedi ymweld â hi. Y rheswm dros hyn yw bod hysbysebwyr, gan gynnwys ni, yn talu am yr hysbysebion yma. Cwcis sy’n galluogi’r dechnoleg yma ac felly mae’n bosib y byddwn yn gosod “cwci ailfarchnata” pan fyddwch yn ymweld â’r wefan. Rydyn ni’n defnyddio’r hysbysebion yma i rannu cynigion arbennig ac ati i’ch annog i ddod yn ôl i’n gwefan. Peidiwch â phoeni, allwn ni ddim cysylltu â chi’n rhagweithiol gan fod y broses gyfan yn gwbl ddienw. Gallwch optio allan o’r cwcis yma ar unrhyw adeg fel yr eglurwyd uchod.

Rheoli cwcis
Ni all cwcis ar eu pennau eu hunain gael eu defnyddio i’ch adnabod chi. Gallwch reoli ac analluogi cwcis yn hawdd drwy newid gosodiadau eich porwr. Mae pob porwr yn wahanol – i gael rhagor o wybodaeth am gwcis yn gyffredinol, dilynwch y dolenni allanol canlynol:
www.aboutcookies.org
www.youronlinechoices.eu

Gall y dolenni canlynol eich cynorthwyo i reoli eich gosodiadau cwcis, neu gallwch ddefnyddio’r opsiwn ‘Help’ yn eich porwr gwe am ragor o fanylion:
• Internet Explorer: http://support.microsoft.com/g…
• Google Chrome: http://www.google.com/support/…
• Safari: http://support.apple.com/kb/PH…
• Adobe (cwcis fflach): http://www.adobe.com/security/…

Drwy ddileu neu gyfyngu ar y cwcis, mae’n bosib na fydd eich profiad o’n gwefan y gorau y gallai fod. Os oes gennych gwestiynau am gwcis, dylech gysylltu â’r Swyddog Diogelu Data yn y ffyrdd canlynol:
• Theatr y Sherman, Heol Senghennydd, Cathays, Caerdydd, CF24 4YE
• Drwy e-bost: data.protection@shermantheatre.co.uk

Diffodd cwcis
Fel arfer gallwch ddiffodd cwcis drwy addasu gosodiadau eich porwr i’w atal rhag derbyn cwcis. Byddai gwneud hynny, fodd bynnag, yn debygol o gyfyngu ar ymarferoldeb y wefan yma – a chyfran fawr o wefannau eraill – gan fod cwcis yn rhan safonol o’r gwefannau mwyaf modern.

Mae’r rhan fwyaf o borwyr gwe yn caniatáu i chi reoli rhywfaint ar y rhan fwyaf o gwcis drwy osodiadau’r porwr. I ddysgu rhagor am gwcis, gan gynnwys sut i weld pa gwcis sydd wedi’u gosod a sut i’w rheoli a’u dileu, ewch i www.aboutcookies.org neu www.allaboutcookies.org. Gallwch ddewis peidio â chael eich tracio gan Google Analytics ar draws pob gwefan, ewch i http://tools.google.com/dlpage/gaoptout.

PA DDATA PERSONOL YDYN NI’N EI GASGLU?
Rydyn ni’n casglu gwybodaeth dechnegol ddienw gan gynnwys cyfeiriad IP, math o borwr a’r fersiwn, system weithredu, a defnyddir y wybodaeth i ddeall sut mae pobl yn rhyngweithio â’r wefan. Byddwn hefyd yn casglu cyfeiriadau e-bost os byddwch yn eu darparu drwy’r ffurflen ar y wefan – ac yn caniatáu i ni eu casglu – gan gynnwys amser a dyddiad eich ymweliad, data daearyddol e.e. lleoliad neu barth amser dyfais, y tudalennau y gofynnwyd amdanynt, y wefan gyfeirio (os caiff ei darparu), faint o amser a dreuliwyd ar ein gwefan a fersiwn eich porwr gwe.

YDYCH CHI’N RHANNU FY NATA PERSONAL?
Mae data dadansoddeg dienw ar gyfer defnydd gwefan ac effeithiolrwydd hysbysebion yn cael ei gasglu fel y disgrifir uchod ac yn cael ei storio gan drydydd parti.

SUT RYDYN NI’N DEFNYDDIO CWCIS AR EIN GWEFANNAU
Rydyn ni’n defnyddio cwcis ar ein gwefan. I gael rhagor o wybodaeth am gwcis, cyfeiriwch at ein Polisi Cwcis i ddysgu rhagor am y cwcis rydyn ni’n eu defnyddio a sut i reoli a dileu cwcis.

GWELLA EFFEITHIOLRWYDD EIN GWEFAN
Rydyn ni am wneud yn siŵr bod ein gwefan yn galluogi pobl i ddysgu am ein sioeau ac i archebu tocynnau a bod y wefan yn diwallu anghenion ein cwsmeriaid ac yn hawdd i’w defnyddio. I wneud hyn, mae angen i ni ddeall sut mae pobl yn defnyddio’r wefan, ble maen nhw’n treulio amser a pha dudalennau sy’n llai defnyddiol iddyn nhw. Rydyn ni’n defnyddio Google Analytics i ddeall sut rydych chi ac ymwelwyr eraill yn defnyddio ein gwefan, er enghraifft cofnodi ym mha drefn mae pobl yn ymweld â thudalennau a faint o amser a gaiff ei dreulio ar bob un, fel y gallwn wella’r wefan yn y dyfodol. Mae polisi preifatrwydd Google Analytics i’w weld yma. Rydyn ni’n cofnodi eich caniatâd i storio cwcis dadansoddeg gwefan pan fyddwch yn ymweld â’r wefan am y tro cyntaf ac yn clicio ar yr hysbysiad cwcis. Y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu’r cwcis dadansoddol yma yw ein buddiant cyfreithlon mewn gwella ein gwefan gan ein bod yn credu nad yw defnyddio cwcis o’r fath yn ymwthiol.

TARGEDU A MESUR EFFEITHIOLRWYDD EIN MARCHNATA DIGIDOL
Rydyn ni’n gwybod bod llawer o bobl yn ymweld â gwefan ein theatr fwy nag unwaith i ddysgu am ein rhaglen o ddigwyddiadau cyn penderfynu archebu tocynnau. Rydyn ni am wneud yn siŵr bod ein hysbysebion digidol ar wefannau trydydd parti a chyfryngau cymdeithasol yn cael eu gweld gan bobl sy’n debygol o fod â diddordeb yn y sioe, gan gynnwys ymwelwyr â’r wefan yma sydd heb archebu tocynnau eto. Rydyn ni hefyd am ddeall effeithiolrwydd ein hysbysebion o ran annog ymweliadau â’r wefan ac archebu tocynnau fel y gallwn eu gwella yn y dyfodol, er enghraifft drwy adolygu’r dewis o ddyluniadau hysbysebu a’r gwefannau a’r rhwydweithiau hysbysebu a ddefnyddir i gyrraedd cwsmeriaid. Gall cyflawni hyn olygu dangos fersiynau gwahanol o hysbysebion i wahanol gwsmeriaid i fesur yr ymatebion a gynhyrchir gan bob un. Mae’n bosib y byddwn yn defnyddio hanes pori sydd ar gael, gan gynnwys ymweliadau â’r wefan yma, i nodi pobl rydyn ni’n dymuno dangos hysbysebion iddyn nhw ar wefannau a weithredir gan drydydd partïon ac i gofnodi faint o ymwelwyr sy’n cael eu cyfeirio at ein gwefan o wefannau eraill. Rydyn ni’n defnyddio cwcis tracio hysbysebion Google i gyflawni hyn ac yn prosesu’r cwcis ar sail buddiant cyfreithlon. Rydyn ni’n credu bod dangos hysbysebion perthnasol o fudd i chi yn ogystal ag i ni, a dydyn ni ddim yn credu bod personoli o’r fath yn cael ei ystyried yn ymwthiol yn gyffredinol. Rydyn ni’n parchu unrhyw benderfyniad i beidio â chymryd rhan mewn hysbysebu personol, ac os felly, gall gwefannau trydydd parti ddangos hysbysebion nad ydyn nhw wedi’u personoli i chi ac efallai y byddwch yn dal i weld hysbysebion ar gyfer ein sioe. Rydyn ni’n cofnodi eich caniatâd i storio cwcis tracio hysbysebion pan fyddwch yn ymweld â’r wefan am y tro cyntaf ac yn clicio ar yr hysbysiad cwcis. Mae manylion am sut i newid eich gosodiadau i optio allan o hysbysebion personol i’w gweld yn ein Polisi Cwcis, yma. Rydyn ni’n defnyddio Google i dracio ein hysbysebion. Mae manylion am ba mor hir caiff eich data ei storio a sut mae trosglwyddiadau tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd i’w gweld yn eu Polisi Preifatrwydd. Nid yw ein gwybodaeth cwcis tracio yn cael ei rhannu â thrydydd partïon at eu defnydd eu hunain, er efallai y byddwn yn ei defnyddio i gysoni costau hysbysebu â chyhoeddwyr gwefannau trydydd parti.

PICSELI A THECLYNNAU GWE ERAILL
Yn ogystal â defnyddio cwcis, efallai y byddwn hefyd yn defnyddio picseli a theclynnau gwe eraill i gasglu gwybodaeth am eich gweithgareddau pori wrth ymweld â’n Gwefan. Yn hyn o beth, mae’r wybodaeth a gaiff ei darparu yn debyg i’r wybodaeth a gaiff ei darparu gan gwcis, ac rydyn ni’n ei defnyddio at yr un dibenion. Rydyn ni’n aml yn defnyddio gwasanaethau tracio i fonitro’r ymateb i hysbysebion ar wefannau trydydd parti. Gall y gwasanaethau yma ddefnyddio cwcis a phicseli i dracio ymwelwyr sydd wedi cyrraedd ein gwefan drwy glicio ar yr hysbysebion yma, a defnyddir data ohonynt i asesu perfformiad yr hysbyseb. Mae unrhyw wybodaeth a gawn amdanoch drwy ddefnyddio cwcis, picseli neu declynnau gwe eraill yn amodol ar yr un cyfyngiadau ac amodau ag unrhyw wybodaeth arall rydyn ni’n casglu amdanoch.