MAE RHAGLEN DATBLYGU TALENT GENEDLAETHOL FRANTIC ASSEMBLY, SY’N RHAD AC AM DDIM, AR Y FFORDD I THEATR Y SHERMAN

Uncategorized @cy
Rydym yn gyffrous i gyhoeddi ein bod yn bartneriaid â Frantic Assembly ar eu rhaglen datblygu talent flaenllaw, sy’n rhad ac am ddim, sef Ignition.

BETH YW IGNITION?
Ignition yw rhaglen datblygu talent genedlaethol Frantic Assembly, sy’n rhad ac am ddim, ac sy’n chwilio am dalent sy’n cael eu tangynrychioli ymhob cwr o’r wlad. Mae’n agored i BAWB rhwng 16 a 24 oed.

SUT MAE’N GWEITHIO?
Yr hydref hwn, bydd Frantic Assembly yn teithio ledled y DU i ddarparu sesiynau blasu a gweithdai prawf AM DDIM ar y cyd â’u 12 partner rhanbarthol. Mae sesiynau blasu a gweithdai prawf Frantic Ignition yn llawn egni ac yn cael eu hwyluso ar gyfer pobl ifanc sy’n wynebu rhwystrau wrth gael mynediad i’r celfyddydau; maent yn ymweld a theatrau a gofodau eraill er mwyn gadael i bobl ifanc wybod fod y celfyddydau ar eu cyfer nhw.

WYTHNOS DDWYS IGNITION (Hyd 21 – 28 2023)
Bydd 24 o bobl ifanc yn ymuno â Frantic Ignition yn Llundain am wythnos ddwys o ddyfeisio gan ddefnyddio Dull Frantic er mwyn creu dau gynhyrchiad gwreiddiol cyhoeddus yn Brixton House.
Bydd Frantic Assembly yn talu am holl dreuliau yr wythnos ddwys.

Mae Ignition hefyd yn darparu rhaglen hyrwyddo mynediad trwy gydol y flwyddyn sy’n parhau i hyfforddi, mentora a chyfeirio at hyfforddiant a chyfleoedd gyrfa gyda Frantic Assembly a’u partneriaid ledled y Deyrnas Unedig.

A FYDD SESIYNAU BLASU A GWEITHDAI PRAWF YN CAEL EU CYNNAL YN FY ARDAL I?
Eleni bydd Frantic Assembly yn hwyluso sesiynau blasu a gweithdai prawf yn rhad ac am ddim yn y lleoliadau canlynol:
• Birmingham Hippodrome
• Brixton House Theatre
• East London Theatre School (UEL)
• Northern Stage, Newcastle
• Corby Cube
• Liverpool Everyman & Playhouse
• Leeds Playhouse
• Mercury Theatre, Colchester
• Lyric Belfast
• National Theatre Scotland
• MAST Mayflower Studios
• Theatre Royal Plymouth
Theatr y Sherman – Rhagflas Medi 9 / Treialon Medi 29
• Brixton House

Archebwch nawr drwy Eventbrite.

Dydd Sadwrn 9 Medi 2023 (Gweithdai Rhagflas)
12.00yp – 1.30yp: archebwch
2.00yp – 3.30yh: archebwch

FAQS A CHWESTIYNAU TREIALOL

Pa mor hir yw’r gweithdai blasu a threialu?
Mae’r gweithdai blasu’n 90 munud. Mae’r gweithdai treialu yn 120 munud.

Beth ddylwn i ei wisgo i’r gweithdai blasu a threialu?
Mae’r ddau fath o weithdy yn seiliedig ar symud. Dylech wisgo dillad llac a chyfforddus, ac esgidiau/treinyrs sy’n addas ar gyfer ymarfer corff. Peidiwch â gwisgo sgert, jîns, na gemwaith.

Os na alla i ddod i’r gweithdai blasu, ga i ddod i’r gweithdai treialu?
Cewch! Mae mynd i’r gweithdai blasu a threialu’n ddewisol. Rydyn ni’n argymell yn gryf eich bod yn dod i’r ddau, ond rydyn ni’n deall nad yw hyn bob amser yn bosib oherwydd amserlen.

Faint o weithdai blasu a threialu alla i fynd iddyn nhw?
Allwch chi ddim ond cofrestru a mynd i un gweithdy blasu a/neu un gweithdy treialu.